Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARLOESWYR 5.-MARY FRANCES RATHBONE GAN ROBERT RICHARDS PRIN hwyrach y dylid rhestru Miss Rathbone ymysg arloeswyr cynnar y WEA yng Nghymru, ond y golygydd biau'r awg- rym, a rhyngddo ef a'i ddarllenwyr. Y mae ei gefn yn ddigon llydan a'i ben yn ddigon hir i ddal unrhyw ymosodiad a ddichon ddyfod i'w ran o'r herwydd. Yn sicr ddigon, prin y gellid ei chyfrif yn un o'r arloeswyr yn yr ystyr y bu Lleufer Thomas yn y dyddiau bore, pan oedd y meddylddrych megis yn ymrithio gerbron ei lygad ac eiddo dynion fel R. D. Roberts o Aberystwyth. Annelwig odiaeth oedd y breuddwyd y pryd hwnnw, ac yr oedd Cymru wrthi â'i holl egni ar y pryd yn gosod i lawr sylfeini ei chyfundrefn addysg newydd, ei phrifysgol a'i hysgolion canol, ac o dan amgylchiadau felly prin y gellid disgwyl i'w cholegau estyn llawer ar eu cortynnau, a chymryd i mewn addysg pobl mewn oed yn ogystal ag addysg yr ieuanc. Nid oedd Miss Rathbone chwaith yn arloeswr fel y bu John Thomas a John Davies wrthi am flynyddoedd yn arloesi ac yn gwrteithio'r tir yn y De nes ei ddyfod yn barod i dderbyn yr had da. Nid gorchwyl hawdd oedd hynny. Y mae cymaint asbri ym meddwl pobl y De nes eu bod yn barod i dderbyn bron bob syniad newydd, yn enwedig os bydd dipyn yn eithafol. Yn araf bach felly y gallodd y WEA roddi ei droed i lawr yn wyneb ym- osodiadau'r Comiwnyddion, y Central Labour College a'r Sundical- iaid-The Miners' Next Step. Bu'n frwydr galed am lawer blwyddyn. Ni ellir rhestru Mary Rathbone gyda Silyn, a fu'n gweithio yn dawel a di-drwst i roi'r delfryd yng nghalon Chwarelwyr y Gogledd. Arferai Silyn â darlithio ar Economics mewn enw, ond clywais ef ei hun yn dweud fel yr hiraethai am yr hamdden a gâi ar ddiwedd y tipyn darlith," chwedl yntau, i droi i fyd llenyddiaeth,agwefreiddio'rhogiau â barddoniaeth chwyldroadol Shelley neu Edward Carpenter. Dyma'r llwybr a gymerodd tyfiant y mudiad yn y Gogledd.