Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFIEITHIADAU O HORAS GAN O. M. LLOYD OFEREDD (Horas II, 14) Mynd ar frys drwy'i ddyrys ddydd Mae dyn ar chwim adenydd. Er rhinwedd byrha einioes, Nid estyn un dyn hyd oes. Daw henaint â dihoeni, A daw'n nos anorfod ni. Felly diwerth d'aberth di, Heddwch nis pryn a roddi. Dyhuddo Duw â'i haeddiant Ni wyr gwr er ei deirw gant. Er wylo daw marwolaeth I ddwyn gwr i'w fedd yn gaeth. Rhwydd ein byw ar roddion byd, Nid yw mwyniant ond munud. Mawr adwyth yw, mae'r daith hon A'n trafael tua'r afon. I'r llif oer â llafurwr, Â'i deyrn y daw i'r un dwr. A ddaw'r hyfaidd o'r rhyfel ? Rhag tranc ni ddianc pan ddêl. Er osgoi ei doi â'r dwr Yn llaw angau syrth llongwr. Er cael gwisg rhag haul a gwynt Ni phellha f'olaf helynt. Teithio raid i tithau ar hyn, Daw o orfod dy derfyn Yna efon Iorddonen Ar awydd byw a rydd ben. Ofn a ddwg yr afon ddu A gyr enaid i grynu. Gadael tir a gadael ty O'th ôl, a gwraig a theulu