Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lluoedd sy'n ceisio llawer, A ddaw rhyw fudd i'w hawr fer ? Â'r goludog drwy'r gwledydd, Ei frys ef yn ofer sydd Er ei yrru i fro arall Ffoi rhagddo'i hun un ni all. Dring dwylo ing hyd longau, Er eigion a thon ni thau. Oeda gofid â'i gyfarch, Deil ymysg pedolau march. Fe welwn hwn o flaen hydd, Daw'r awel ar ei drywydd. Am ei gyfran at drannoeth Bodlona, nid ofna y doeth. Pery ei wên, ac nid prudd Y gŵr da er garw dywydd. Nid eiddo neb ddedwyddyd Heb och na baich yn y byd. Dewrion y drin a â i dranc, Un oedd eofn ni ddianc. Fe wêl henwr ei flino, Daw yr awr i fynd i'w ro. A golli di gall y daw Yn olud yn fy nwylaw. Clyw frefiad dy ddiadell, A chwyn bêr ychen o bell Dy farch a'th gyfarch o'i gae, Mae'i awch erot am chwarae, Gŵr yn glyd o grwyn a gwlân Yn ei ddydd a fydd ddiddan. I ti, fy nghyfaill, rhoed hyn, A minnau cân a'm hennyn. > Gras Iôn yw gwres awenydd, Sain i'w ras awen a rydd. Hon yw sail fy nheyrnas i, Di-werth yw'r hollfyd wrthi.