Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ar antur, a'u bwydo â'r bwyd agosaf at law, fel y byddai'r mwyafrif mawr o dyddynwyr Cymru yn ei oes ef. 0, nage-yr oedd yn rhaid cael y dulliau gorau o drin y tir cau a chloddio a gwrteithio, prynu hadyd ac anifeiliaid o'r bridiau gorau mewn gair, dod i fyny â'r safonau diweddaraf a oedd wedi eu darganfod yn ei ddyddiau ef. Ni wnâi dim byd llai mo'r tro i Hywel Harris. Ond sut yr oedd i gael gafael ar y syniadau newydd hyn ? Wel, dyma ni'n awr yn dod at yr ail beth sydd gennym i'w gofio. Yii union yn oes Hywel Harris y daeth yr hyn a elwir yn Amaeth- yddiaeth Newydd i fri yn Lloegr. Nid oes ofod yma i fanylu ar hanes honno yn Lloegr. Ond o ran Cymru, Sir Frych- einiog-sir Hywel Harris-oedd arloesydd yr Amaethyddiaeth Newydd. Sir go dda fu hi erioed i ffarmio ynddi-sir (gan mwyaf) o dir âr coch cyfoethog yn y gwaelodion, ac o borfeydd meithion, blasus i ddefaid, ar y topiau sir â chanddi ddigon o goed ac o galch. Ond eto, yr oedd lle mawr i wella. A thua chanol y ddeunawfed ganrif-yr union adeg yr oedd Harris yn cychwyn Teulu Trefeca-aeth gwyr bonheddig Brycheiniog ati i gymryd mantais o'r holl ddyfeisiau newydd a oedd bellach yn cerdded Lloegr. Yr oedd ganddynt eisoes glwb, a elwid The County Club for Gentlemen," ac a sefydlwyd, meddai hen hanesydd y sir, `` for amusements and social intercourse." Yn y Clwb hwnnw, byddent hefyd yn sgwrsio â'i gilydd ar faterion byd y ffarmwr." Y mae cymaint o newid wedi dyfod tros fywyd Cymru yn y ddau can mlynedd diwaethaf nes ei bod hi'n anodd i ni heddiw lawn sylweddoli pwysigrwydd y gwyr bonheddig yn yr hen oes. Heddiw yng Nghymru, y mae lliaws o ffermwyr effro a goleuedig y mae Cynghorau Sir, wedi eu hethol gan y wlad, yn bwrw golwg dros ein buddiannau, ac yn meddu'r hawl i godi arian at wella ein cyflwr; y mae Adrannau Amaethyddol ein Colegau wrth law i roi'r wybodaeth ddiweddaraf at ein gwasanaeth ac ar frig yr holl gyfundrefn y mae Gweinyddiaeth yn Llundain i reoli popeth. Os rhywbeth, cwyno y mae'r ffarmwr heddiw fod gormod o awdurdodau â'u bysedd yn ei fusnes ef. Wel, nid oedd cymaint ag un o'r pethau hyn yn bod yn oes Hywel Harris. Nid cyn 1889 y cawsom y Cynghorau Sir nid cyn 1872 y cawsom Goleg Prifysgol-ac nid oedd hwnnw ar y cychwyn yn poeni ei ben ynghylch ffarmio tua 1800 y daeth Bwrdd Amaethyddiaeth yn Llundain i fod. Ac ofer fydd ichwi holi am Glybiau Ffermwyr Ieuainc yn nydd Hywel Harris.