Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DWY SONED GAN T. E. NICHOLAS I WERIN CYMRU Gollwng dros gof y cyfan, ddydd a ddaw, Y geiriau chwerw a'r bygythion trwm, Fel blodau yn anghofio'r gafod law Pan lif yr heulwen i gilfachau'r cwm Tro dithau heibio fy holl ddrwg a'm da, Dibris feddyliau yn y dydd a fu, A'r clebran ofer a fu iti'n bla Pan soniwn am y wawr mewn cyfnod du. Bu 'ngair yn chwerw droeon llawer tro Bu'r fflangell yn fy llaw, a thithau'n fud Dan ei hergydion. Cerddais drwy dy fro I dorri'r breuddwyd ac i chwalu'r hud Na chofia ddim, fy ngwerin, ond i mi, Yn fy ngwendidau mawr, dy garu di. HWYR BRYNHAWN Y mae diddanwch im' mewn cwmni llawen, A chyda'r plant sy'n disgwyl dyddiau gwell, Ym mlodau'r eithin ac yng ngrawn ysgawen Sy'n harddu dolydd Cymru hyd ymhell Nid ydyw Gobaith wedi llwyr ddiffoddi, Na'r Breuddwyd cynnar wedi cilio'n llwyr, Er i gymdeithas yn y Chwyldro doddi, A darfod yn y tân fel darn o gwyr Y mae diddanwch im' mewn cof a llyfyr, Mewn dyddiau heulog a therfysgoedd du, 0 ganfod weithiau yn nhawelwch myfyr Gymru yfory'n well na Chymru fu Mae golau'r haul yn llenwi'r hwyr brynhawn. Ac afon Cynnydd hyd ei glannau'n llawn.