Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y COLEG NORMAL GAN ERNEST ROBERTS YN NYDDIAU cynnar grantiau addysg, sonnid am ddau fath o addysg, sef addysg elfennol ac addysg normal." Wrth addysg normal golygid addysg a gyfrennid mewn ysgolion neu golegau a letyai ac a fwydai'r myfyrwyr. Felly, o eirfa llun- wyr rheolau'r grantiau yn y Trysorlys y llusgwyd y gair normal i Fangor. Coleg Preswyl=¾dyna'n syml oedd ystyr wreiddiol yr enw Coleg Normal." Rhoes y wladwriaeth y grant cyntaf o ugain mil o bunnau tuag at addysg yn 1833 ac yr oedd yr arian i'w weinyddu gan ddwy Gymdeithas-Cymdeithas Genedlaethol, a ofalai am y National Schools cysylltiedig â'r Eglwys Sefydledig, a Chymdeithas Ysgol- ion Brutanaidd a Thramor. Cymdeithas anenwadol oedd y Gymdeithas Frutanaidd, ond bod iddi gefndir Anghydffurfiol, a than ei nawdd hi y codwyd y British Schools. Rhoddid y grant ar ddwy amod, — (i) Bod yr arian i'w wario ar adeiladau yn unig dim ceiniog ohonynt i fynd tuag at gyflogau'r athrawon nac am lyfrau ysgol (ii) bod y pwyllgor lleol, boed hwnnw dan nawdd y Gymdeithas Genedlaethol ai'r Gymdeithas Frutanaidd, i gasglu swm cyfartal â hanner y gost o adeiladu. Yr oedd yr amodau hyn ynddynt eu hunain yn eithaf teg tuag at y naill gymdeithas a'r llall, ond methodd yr Anghydffurfwyr â manteisio arnynt i'r un graddau ag y gwnaeth yr Eglwyswyr. Un rheswm am hynny oedd mai ychydig o dirfeddianwyr a berthynai i'r cynulleidfaoedd Ymneilltuol, a gorfodid y Gymdeithas Frutanaidd yn fynych i brynu tir i adeiladu yn ogystal â chodi'r ysgol, a golygai hynny drymhau'r baich ariannol. Fel y gwyddys, symbylodd llythyr enwog Syr Hugh Owen Gymru i gefnogi ysgolion y Gymdeithas Frutanaidd, ac i adeiladu y Britis Sgŵl." Apwyntiodd y gymdeithas y Parch. John Phillips, a oedd ar y pryd heb ofal eglwys, i gyfarwyddo pwyll- gorau lleol gyda'u cynlluniau. Pan ddechreuodd ef ar ei waith yn 1844, nid oedd ond dwy Fritis Sgŵl yng Ngogledd Cymru, un yn Wrecsam, a'r llall yn Nhremadog. Ymhen tair blynedd ar ôl i John Phillips gydio yn y gwaith, yr oedd wedi sefydlu deugain o ysgolion, ac ymhen deuddeng mlynedd yr oedd wedi sefydlu cant ac ugain ohonynt. Fel y digwydd yn aml wrth ddatrys un