Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

£ 190 gan Eglwyswyr, £ 38 gan yr Annibynwyr, £ 1:5:8 gan y Bedyddwyr, ond dim ceiniog goch y delyn oddi wrth y Wesleaid, Mr. Golygydd 0 fwrw golwg dros restr y tanysgrifwyr, y mae traean y swm a gasglwyd heb enw na chyfeiriad y rhoddwyr ar ei gyfer. Pobl y mân symiau oeddynt, nad edwyn neb eu henwau mwy na'u clod." Ni phallodd haelioni gwerin y mân symiau am hanner can mlynedd ar ôl cychwyn y sefydliad yn 1858 yn Festri Twrgwyn, Bangor, a chyn i'w hymddiriedolwyr drosglwyddo'r coleg yn ddi-ddyled i Gynghorau Sir Gogledd Cymru yn 1908 yr oedd wedi hyfforddi mil a chwe chant o fechgyn, a'u hanfon i ysgolion ymhob cwr o Gymru-John Rhŷs i Ros-y-Bol, Henry Jones i Frynaman, John Lloyd Wilhams i'r Garn, Llew Tegid i Fethesda, Marchant Williams i'r Garth, Owen Prys i Gwmrheidiol, David Adams i Lanelli, William Jones (A.S.) i Goginan, E. O. Davies i Flaenau Ffestiniog. A pheth mwy a ddywedaf ? Canys yr amser a ballai i fynegi am Yn nhref y Barri, dan nawdd Cymdeithas y Rhieni, fe gynhelir yn feunyddiol ysgol feithrin wirfoddol i blant sydd ar y dechrau yn hollol ddi-Gymraeg. Plant dan bump oed yw'r rhain, ac yn yr ysgol hon fe ddysgir yr iaith Gymraeg iddynt fel iaith newydd, er mwyn eu paratoi i fynd i'r ysgol gynradd pan ddelont i'r oed priodol. Ffaith ddiddorol yw fod rhieni'r plant hyn yn ddi- Gymraeg, eithr bod eu teidiau a'u neiniau gan amlaf yn medru'r iaith. Perthynant felly i ddosbarth pur niferus yn Neheudir Cymru, sef yr ail genhedlaeth a Seisnigwyd. Eu mamiaith yn yr ystyr lythrennol yw'r Saesneg eithr mamiaith hanesyddol eu cymdeithas yw'r Gymraeg. Perthyn eu rhieni i'r genhedlaeth ddi-Gymraeg gyntaf, a'u hawydd i sicrhau na chyll eu plant mo'r fraint a gollasant hwy sy'n eu cymell i anfon y plant i'r ysgol feithrin Gymraeg.-A. O. H. Jarman yn Y Faner. Bydd y byd yn ddiarwybod iddo'i hun yn troi o amgylch y dynion sydd yn creu safonau newyddion. — Nietzsche.