Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS HYDERAF ichwi gael Nadolig Llawen a dymunwn ichwi bob daioni a lles yn y flwyddyn newydd. Rhaid dweud bod yr Etholiad Cyffredinol wedi amharu'n arw ar amryw o'n dosbarth- iadau ar ddechrau'r tymor. Ond wedi'r cyfan, rhywbeth dros dro yw Etholiad, tra mae'r WEA gyda ni bob amser. Y mae addysg yn un o brif angenrheidiau bywyd ond ein bod ni, fel dyn gorhoff o'r ddiod, yn barod i aberthu lles ein plant cyn cwtogi ar bethau llai buddiol. Cafwyd Arddangosfa Addysg Pobl mewn Oed yn nechrau mis Hydref yn y Rhyl, Bae Colwyn, Llandudno, Caernarfon a Bangor, wedi ei threfnu gan y pwyllgor sy'n gyfrifol am hyrwyddo Addysg yn y Gwasanaethau Suful. Gweithiwyd yn egniol gyda hi gan Miss Ruby, Caerdydd, a Tom Parry, Bae Colwyn. Tua diwedd mis Hydref, cynhaliwyd Cynhadledd Genedlaethol y WEA yn Harrogate. Cafwyd cynulliad ardderchog, ac yr oedd 'saith o gynrychiolwyr y WEA yng Ngogledd Cymru yno. Y mae gan bob Cangen hawl i anfon un cynrychiolydd i'r Gynhadledd. Carem weled pob Cangen yn gwneuthur hynny. Cafwyd Ysgol Ben-Wythnos i Undebwyr Ieuainc ym Mhen- sarn, Abergele, ysgol dda iawn, ar Hydref 6, pryd y daeth 33 0 fyfyrwyr ieuainc-o dan 25 mlwydd oed-ynghyd. J. Johnston, o Adran Economeg Coleg y Gogledd, Bangor, oedd y darlithydd, a'i bwnc, Inflation, Wages and Incentives." Y pen-wythnos dilynol cynhaliwyd Ysgol Breswyl arall, y tro hwn yn Abermule, ger y Drefnewydd. Ysgol ardderchog eto, a Cadvan Jones, Athro-a- Threfnydd Llawn Amser y WEA yn Sir Feirionnydd, yn darlithio. Daeth 18 o aelodau yno. Talwyd costau'r rhain i gyd gan Bwyll- gor eu Hundeb. Anfonir gwybodaeth am yr Ysgolion hyn i ysgrif- ennydd pob Cangen bron o'r Undebau Llafur. Cefais gyfle i ymweld â rhai o'r dosbarthiadau. Dosbarth newydd ym Mrynymaen, uwchben Bae Colwyn, wedi dechrau o ddifrif ar Hanes Cymru. Dosbarth hapus iawn o Gymry da, a hyderwn y parhânt ymlaen. Lle arall y cafwyd cychwyn da ar ddosbarth newydd oédd Aberffraw, Sir Fôn. Deunaw o bobl