Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY /^ORFFENNAIS fy Nodiadau yn Rhifyn y Gaeaf o Lleufer drwy gyfeirio at ymadawiad ein Cadeirydd, Lewis Webb, â Deheudir Cymru, a'r golled fawr a fyddai ar ei ôl. Y mae'n dda iawn gennyf allu dweud bod Dr. Olive Wheeler, a fu'n Is-Gadeirydd y Rhanbarth am lawer blwyddyn, wedi cytuno i lenwi lle Mr. Webb fel Cadeirydd. Bu Dr. Wheeler yn weithiwr pybyr yn y Mudiad, fel darlithydd ac athrawes, am gyfnod maith cyn hyn. Dyma'r amser ar y flwyddyn pan fydd Ysgrifennydd y Rhan- barth yn mynd ar ei daith arferol i ymweld â'r dosbarthiadau yn y trefi a'r pentrefi. Gwaith digon anodd ambell dro ydyw cael hyd iddynt yn yr Ysgolion, neu Festrïau'r Eglwysi, neu'r Clybiau. Gwneuthum fy rhan o'r teithio hwn yn ystod y tri mis a aeth heibio, ac y mae'n dda gennyf allu tystiolaethu bod y dosbarth- iadau at ei gilydd yn gwneud gwaith rhagorol. Bu gan rai ohonynt bresenoldeb eithriadol o uchel, ac y mae rhai eraill, ar ôl cychwyn go sigledig oherwydd yr Etholiad Cyffredinol, wedi gafael ynddi yn nodedig o dda. Y mae'n bleser ac yn llawenydd eistedd gyda'r myfyrwyr am noson, a chyfranogi yn y trafodaethau craff, weithiau ar Athroniaeth neu Ddiwinyddiaeth, ac ar adegau eraill ar rai o bynciau Economaidd neu Wleidyddol y dydd. Daw dyn adref yn hwyr iawn weithiau i Gaerdydd, wedi taith hirfaith, gan deimlo, nid yn unig fod y daith yn angenrheidiol, ond hefyd ei bod yn werth chweil. Byddai'n dda gennyf pe gallwn ber- swadio rhai o'n beirniaid i dreulio ychydig nosweithiau yn ein dosbarthiadau-byddai'n adfywiad ysbryd iddynt. Am dair wythnos oddeutu'r Nadolig bûm mewn nifer o gyfar- fodydd adloniadol a drefnwyd gan rai o'r dosbarthiadau. Bron yn ddieithriad, cymerwyd rhan o'r noswaith i drafod rhyw bwnc neu'i gilydd a fuasai'n bwnc trafodaeth yn un o gyfarfodydd y dosbarth yn ystod y tymor. Gair yn awr am y Canghennau. Gorffennodd Cangen Aber- tawe ei threfniadau i ddathlu ei phen blwydd yn un-ar-hugain oed. Gellir dibynnu ar ein cyfeillion yn Abertawe i wneud y dathlu yn deilwng o amgylchiad mor nodedig o bwysig. Caf sôn mwy amdano yn rhifyn nesaf Lleufer