Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH GAN I. DAN HARRY DAETH "y byd a'r Betws i Goleg Harlech yn ystod wythnos olaf y tymor diwaethaf. Cyn i'n myfyrwyr ni ymadael am eu gwyliau Nadolig, cawsant y fraint o groesawu myfyrwyr o Malaya, Pakistan, India, Irac, yr Aifft, Gorllewin a Dwyrain Affrica, Rhodesia, yr Almaen, Ffrainc a'r Unol Daleithiau, i dreulio wythnos yng Ngholeg Harlech. Trefnwyd yr ymweliad gan Mr. Parry, cynrychiolydd y Cyngor Prydeinig ym Mangor, a dyma'r trydydd achlysur o'r fath yn hanes y coleg. Derbyniwyd y cwmni amrywiol hwn i gyflawn aelodaeth o'n brawdoliaeth mewn ychydig oriau, a chyn iddynt noswylio y noswaith gyntaf cawsom glywed caneuon yn iaith frodorol pob un o'r myfyrwyr. Tŵr Babel, ond â thipyn o drefn arno Rhoddwyd cyfres o ddarlithiau gan aelodau'r Staff, ac ymunodd aelodau'r parti gyda'n myfyrwyr ni yn eu dosbarthiadau a'u trafodaethau ar hyd yr wythnos, a gwnaethant gyfraniad sylweddol at ein bywyd cymdeithasol ac adloniadol. Mawr fu'r croeso iddynt hefyd ar aelwydydd yr ardal, a diolchwn o galon i Sefydliad y Merched yn Harlech am drefnu i'r alltudion brofi o letygarwch gwir Gymreig teuluoedd Harlech a'r cylch. Canmol mawr a fu ar y croeso a gawsant. Yn awyrgylch cynnes y Nadolig. teimlai pawb nad oes yn y bôn fawr o wahaniaeth rhwng dyn a dyn, ar waethaf lliw ac iaith a chenedl. I droi at ein myfyrwyr ni, er mai lleihad yn y nifer sydd i'w gofnodi, da ydyw gallu dweud yn ddibetrus eu bod o ansawdd eithriadol o dda. Ar y cyfan, cenhedlaeth o weithwyr dygn a chyson ydyw hon, ac y mae ei hymateb i'w hathrawon yn ysbryd- iaeth ddigymysg. Yn eu plith, am y tro cyntaf yn ein hanes, y mae brodor o Uganda a merch o Iwgoslafia. a chynrychiolir yr Unol Daleithiau a nifer o wledydd Ewrop. Adlewyrchir yr amrywiaeth hwn, a'r cyfoeth sydd yn fynych yn deillio ohono, yn ein bywyd addysgol a chymdeithasol, ac fe'm synnwyd i y noson o'r blaen, er enghraifft, gan wybodaeth, aeddfedrwydd meddwl ac arddull orffenedig hogyn ugain oed wrth annerch ei gyd-fyfyrwyr ar broblemau ei wlad. Teimla'r myfyrwyr tramor yn gartrefol ar fyr amser yn ein mysg am nad yw'r gair `' estron yng ngeirfa Coleg Harlech.