Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Eples, Cyfrol o Farddoniaeth, gan D. Gwenallt Jones. Gwasg Gomer. 5/ ""TJDUW MAWR fe droes y bardd yn bamffletîr," meddai Robert Williams Parry, mewn dychryn, pan ganfu'r ar- wyddion yng ngwaith ei gyfoeswyr iau eu bod am i'r ddwyfol awel chwalu hir waeau'r werin," a chyflawni campau ymarferol eraill. Ac er iddo yntau yn y man ymdeimlo â themtasiwn gyffelyb, daliodd i ymgroesi rhag y dyb beryglus y dylai'r bardd gymryd arno swydd y diwygiwr, neu'r proffwyd, neu'r gwleidydd. Mae'n adeg wan ar grefydd, Annuwiol yw'r oes newydd Byddar fel oes Elisabeth I'r bregeth ar y mynydd.- Gwaedda, Ddiwygiwr." Bendith yn wir ydyw na allwn bob amser hawlio cysondeb manwl rhwng credo lenyddol ein prydyddion a'u gweithgarwch artistig. Nid roes Gwenallt, hyd y gwn, unrhyw awgrym ei fod yn awyddus i'w gyfrif, yn swyddogol, ymhlith y proffwydi, ond y proffwyd sydd amlycaf yn y gyfrol newydd hon o'i gerddi- proffwyd yn nhraddodiad union yr Hen Destament, g\\T sy'n taranu'r gwir yn erbyn y byd, sy'n condemnio'n ddidosturi bechodau'r oes, ei materoldeb, a'i difaterwch, a'i heresi haerllug. Buom yn y dyffryn gynt yn taranu ar ein bocsis sebon Yn erbyn Aifft y gweithwyr a brics di-wellt y meistri gwaith, A gofyn i Engels a Karl Marcs, yn lle'r Crist ar y Mynydd, Ein harwain i'r Ganaan Gomiwnyddol ar ben y daith. Proffwyd sy'n cyhoeddi gwae, ac yn addo gwaredigaeth pro- ffwyd sy'n darogan dinistr, ac yn cynnig cyffur bardd sy'n canu cloch y Llan gydag angerdd a thaerineb newydd. Yr oedd y wedd broffwydol hon ar waith Gwenallt, neu'r swmbwl bropagandiol, yn amlwg ddigon yn Ysgubau'r Awen ac yn Cnoi Cil, ac ni ddylem ryfeddu wrth ganfod yn y gyfrol hon fod y bardd yn gadarnach ei safiad nag erioed ym mrwydr dyngedfennol Ewrop," fel y galwodd hi, rhwng Comiwnydd- iaeth a Christionogaeth. Dro ar ôl tro, cawn yn y cerddi hyn fynegi'n uniongyrchol gredoau diwinyddol a chymdeithasol y bardd, a'i ymlyniad wrth