Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lloyd George, gan Thomas Jones. Gwasg Prifysgol Rhyd- ychen. 21 Bu llawer o ddisgwyl am gofiant Dr. Jones o Lloyd George, nid yn unig oherwydd y gwyddem am allu'r awdur, ond hefyd oherwydd ei fod, fel Ysgrifennydd Cynorthwyol y Cabinet yn ystod yr amser y bu Lloyd George yn Brif Weinidog, wedi cael cyfle personol i sylwi arno a'i farnu ef a'i weithredoedd. Ceir yn y llyfr, yn ogystal â hyn, ffrwyth darllen pob peth o bwys sydd wedi ei gyhoeddi ar hanes Lloyd George a'i gyfnod. Yn sicr, ni siomwyd ein disgwyliad, ac nid rhyfedd i Senor Da Madariaga yn yr Observer am Ragfyr 30, 1951, ddewis y cofiant hwn yn un o'r tri llyfr cofiadwy iddo ef a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn. Ysgrifennwyd y cofiant yn y lle cyntaf yn un o gyfres Gwasg Prifysgol Harvard, America, ar Maìeers of Modern Europe. Lloyd George fel dyn, ond dyn gwleidyddol os bu un erioed, fel gwleidydd Prydeinig ac Ewropeaidd, yw prif bwnc y llyfr. Dyna'r rheswm, y mae'n debyg, paham y bodlonodd yr awdur ar roddi darlun cyffredinol o gefndir ac o yrfa gynnar Lloyd George, yn lle'r manylion rhamantus a diddorol a geir fel rheol yn ei gofiannau. Dangosir gyda gwedd gymeradwyol ddatblygiad Lloyd George o fod yn wleidydd cenedlaethol Cymreig i fod yn wleidydd Pryd- einig, a rhoddir y sylw blaenaf i broblemau cymdeithasol, a'r angen am ddiwygiadau cymdeithasol, a oedd yn gyffredin i Gymru a Lloegr, ac i'w lwyddiant yn gosod sylfeini'r Welfare State. Y mae adrodd hanes Lloyd George yn ystod y Rhyfel Mawr Cyntaf, ac yng Nghynadleddau Versailles, Cannes a Genoa, a ddilynodd y rhyfel, yn brawf llym ar gofiannwr, gan fod yn rhaid iddo, os yw am wneud cyfiawnder â'i bwnc, gamu i feysydd lle y mae arbenigwyr mewn gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth, mewn problemau strategol, economaidd a chydwladol, wedi brwydro'n ffyrnig. Nid yw Dr. Jones yn osgoi yr un o'r problemau, ond yn eu trafod ag annibyniaeth meddwl ac ymchwil trylwyr, ac yn mynegi barn ddoeth dro ar ôl tro o blaid Lloyd George, neu yn ei erbyn, mewn brawddegau grymus a chofiadwy. Y mae'r penodau hyn yn fwy boddhaol o ddigon nag yw rhai cyffelyb mewn cofiannau blaenorol. Teimlaf, serch hynny, fod rhywfaint o ddrama bywyd Lloyd George, ac o'r digwyddiadau mawr a oedd yn mynd ymlaen, yn cael ei golli oherwydd dull oer rhesymol Dr. Jones o sgrifennu, ac oherwydd ei fod wedi crynhoi'n ormodol hanes Cynadleddau Versailles, Cannes a Genoa.