Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nid oes ofod i drafod yr adrannau gwych ar y Cabinet Rhyfel a'i Staff Ysgrifenyddion (Secretariat), ac yn enwedig ar weith- redoedd da a drwg Lloyd George ynglyn ag Iwerddon, a'r bennod sydd yn adrodd yn feistrolgar ymdrechion a methiant Lloyd George i adennill ei hen safle, ynghyda'r cyfnod o ymfodloni cymharol cyn i'r cysgodion ddechrau cau amdano. Coron y llyfr yw'r darlun byw, cyfoethog, argyhoeddiadol, a rydcl o Lloyd George. Gallesid barnu'n llymach rai o'i weith- redoedd, ond eto dengys Dr. Jones yr elfennau lleiaf ad-dyniadol yn ei gymeriad, yn ogystal a'i fawredd a'i athrylith bohticaidd. EMRYS JENKINS Cymru a'r Hen Ffydd, gan Emyr Gwynne Jones. Gwasg y Brifysgol. 7/6. Fe wyddai'r rhan fwyaf ohonom, digon tebyg, mai araf iawn oedd cynnydd Protestaniaeth yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Gwyddem hefyd fod rhai Catholigion pybyr o Gymru, megis Gruffydd Robert a Morris Clynnog, wedi gwrthod derbyn trefniadau eglwysig Elisabeth a ffoi i'r Cyfandir, ac yno wedi sgrifennu llyfrau Catholig i'w dosbarthu ymhlith eu cydwladwyr. Daeth offeiriaid eraill yn ôl o'r colegau yn Ewrop a chael eu herlid a'u merthyru, fel William Davies a John Roberts a bu lleygwyr fel William Parry a Hugh Owen yn cynllunio yn erbyn y Llywodraeth. Ond hyd yn hyn, tenau iawn oedd ein gwybodaeth am y "gwrthodwyr cydwybodol," hynny yw, y bobl hynny yng Nghymru a wrthodai ufuddhau i'r Ddeddf Unffurfiaeth a'u gorch- mynnai i fynd i eglwys y plwyf bob Sul i wrando gwasanaeth Protestannaidd. Ni allai neb fod yn siwr faint ohonynt oedd, na phwy oeddynt, nac ymha blwyfi y'u ceid. Y prif reswm am y bwlch hwn yn ein gwybodaeth oedd diffyg tystiolaeth hanesyddol sicr, ac ni lanwyd mohono hyd nes i Emyr Gwynne Jones weithio ar gofnodion y llys a elwid y Sesiwn Fawr," a ffynonellau eraill, y rhan fwyaf ohonynt yn y Public Record Office yn Llundain. Llysoedd y Sesiwn Fawr oedd y llysoedd barn a sefydlwyd gan y Ddeddf Uno i gwrdd ddwywaith y flwyddyn ymhob sir yng Nghymru, ac ymhlith eu cofnodion ceir rhestrau plwyfol o'r bobl a wrthodai fynd i addoli yn eglwys y plwyf. Ar sail y rhain gallodd yr awclur adrodd hanes Catholigiaeth ar ôl y Diwygiad yn weddol gyflawn, gan olrhain dechrau, datblygiad a dirywiad rhif y gwrth- odwyr ymhob sir.