Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fechan offyddloniaid yn aros am beth amser eto yn rhai o blwyfi diarffordd Sir Fynwy. Y mae'n ddiddorol sylwi ar dair ffactor bwysig sy'n nodweddu Catholigiaeth y cyfnod hwn o'r dechrau i'r diwedd. Yn gyntaf, nid yn y rhanbarthau Cymreiciaf, mwyaf mynyddig ac anghys- bell, y ffynnai, ond mewn ardaloedd megis Wrecsam neu Sir Fynwy, ar y ffin rhwng Lloegr a Chymru. Yn ail, dibynnai'n fawr ar nawdd a chefnogaeth teuluoedd dylanwadol megis teulu Castell Rhaglan, neu uchelwyr o bwys megis Edwards y Waun neu Twrbiliaid Bro Morgannwg. Yn olaf, rhydd-ddeiliaid sylweddol oedd asgwrn cefn y gwrthodwyr o ran rhif. Darlithiau cyhoeddus oedd cynnwys y llyfr hwn yn y lle cyntaf, a chan eu bod wedi'u llunio ar gyfer cynulliad cymysg," y maent yn glir ac yn gryno, heb fod yn bedantig nac yn or- academig fel y tuedda gweithiau hanesyddol i fod wetihiau. Am hynny, gellid meddwl y byddai'r llyfryn derbyniol hwn yn gaffaeliad mawr i athrawon ac aelodau dosbarthiadau allanol y WEA sydd yn astudio hanes Cymru. GLAXMOR WILLIAMS Baledi Morgannwg, gan Ben Bowen Thomas. Llyfrau Deunaw. Gwasg y Brifysgol. Cyfrol Ddwbl, 2 /6. Yr oedd i'r baledwyr Ie amlwg ym mywyd Cymru yn y ddeu- nawfed ganrif a'r bedwaredd ar bymtheg. Crwydrent o gwmpas y wlad, o'r naill dref i'r llall ac o ffair i ffair, yn difyrru eu gwranda- wyr â'u caneuon a chan fod y bobl yn dibynnu llawer arnynt am newyddion cyfiawnent swydd newyddiadurwyr, gan adrodd am helyntion a digwyddiadau'r dydd ymhell ac agos. Ond pan ddaeth tro ar fyd, a chyfnewidiadau mawr ym mywyd Cymru, gwelwyd eu hôl ar y baledi hefyd. Fe gofir mai un digwyddiad pwysig iawn yn y cyfnod hwn oedd y Chwyldro Diwydiannol, ac fel y gellid disgwyl, dylanwadodd gryn dipyn ar faledwyr De Cymru, yn ogystal ag ar rai o'r Gogledd, fel y gwelir yn y gyfrol hon. 0 ganlyniad, yr oedd y baledwyr, nid yn unig yn adrodd eu profiadau ym myd serch, ac yn canu am eu hieuenctid, ond yn «clodfori "Mwynwyr Cymru" fel Rhydderch, a chanu clod William Crawshay a'i Frodyr fel J. W. Jones. Daeth y Chwyl- dro hwn â thestun arall i'r baledwyr bu llawer damwain yn y gweithfeydd haearn a'r pyllau glo, a cheir sôn am nifer ohonynt