Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cawn hefyd syniad am grefft y baledwyr, gan fod amrywiaeth mawr mewn mesurau yn y gyfrol hon. Defnyddient y mesurau rhydd, gan mwyaf, er nad oedd y gynghanedd yn ddieithr iddynt, fel y dengys aml i gerdd. Defnyddid iaith sathredig a ffurfiau tafodieithol, a nodwedd amlycaf y baledi hyn yw eu symlder a'u heglurder Ar yr olwg gyntaf, nid yw'r mesur bob tro yn gweddu i'r testun, ond fe welir y rheswm am hynny pan gonwn mai ar gyfer eu canu y Uuniwyd y baledi. Ceir gan y golygydd ragymadrodd gwerthfawr yn rhoddi ffeithiau diddorol am y baledi a'r baledwyr, ac ar y diwedd ceir nodiadau ar rai o'r awduron. Rhagymadroddion, 1547-1659. Golygwyd gan Garfield H. Hughes. Gwasg y Brifysgol. 6/ Yn y gyfrol hon ceir detholiad o ragyir adroddion i lyfrau a gyhoeddwyd mewn cyfnod pwysig iawn yn hanes Cyrrru-cyfnod y Diwygiad Protestannaidd, y Ddeddf Uno a'r Dadeni Dysg. Ceir yma waith gwŷr enwog a rhai llai adnabyddus, Protestaniaid a Chatholigion, offeiriaid a gwyr lleyg. Cawn, er enghraifft, ragymadrodd Richard Davies i Destament Newydd 1567 eiddo Gruffydd Robert i'w "Ddosbarth Byrr Ar Y Rhann Gyntaf i Ramadeg Cymraeg," a Siôn Dafydd Rhys i'w ramadeg yntau, a rhagymadrodd Maurice Kyffin i Ddeffynniad Ffydd Églwys Loegr." Y mae'r gyfrol hon yn un ddiddorol am amryw resymau. Fe welwn, yn gyntaf, beth oedd yn sym bylu'r gwyr hyn i gyhoeddi eu llyfrau, sef, cariad at eu gwlad a'u hiaith, a'r awydd i roddi dysg a gwybodaeth i'r Cymry yn eu hiaith eu hun er lles i'w heneidiau. Casglwn hefyd mai Cymry o'r iawn ryw oeddynt (er eu bod yn deyrngar i goron Lloegr), yn wŷr dysgedig a llenorion ymwybodol. Nid oedd arnynt ofn beirniadu eu cydgenedl am ddiystyru ac anghofio eu hiaith, a gwnaent hynny heb flew ar eu tafod a chydag ymadroddion miniog dro arall ceir ganddynt elfen gref o ddychan; a phwy a all anghofio sylw cyrhaeddgar Maurice Kyffin wrth sôn am y gẃr eglwysig hwnnw a fynnai nad oedd unrhyw ddiben mewn cyhoeddi dim mewn. Cymraeg, ac mai gwell fyddai i'r Cymry ddysgu Saesneg a cholli eu hiaith Ebe Maurice Kyffin A alle Ddiawl ei hun ddoedyd yn amgena,ch ?