Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Teifl y gyfrol hon oleuni ar y cyfnod, gan ddangos beth oedd agwedd llawer o uchelwyr ac offeiriaid Cymru tuag at eu gwlad a'u hiaith. Casglwn hefyd fod yr awduron hyn yn dwyn allan eu gwaith dan lawer o anawsterau-a.c nid y lleiaf ohonynt oedd y ffaith nad oedd yr argraffwyr yn deall Cymraeg. Nid peth cynefin," medd Maurice Kyffin, yw printio Cymraeg," a dyna hefyd yw cwyn Richard Davies, Gruffydd Robert a Huw Lewys. Yn olaf, cawn gyfle i astudio arddull y gwyr hyn. Gwyr dysgedig oeddynt a chynefin â'r clasuron, a gwelir dylanwad hynny ar eu gwaith. Ymhyfrydent mewn llunio brawddegau maith-noder, er enghraifft, eiddo Huw Lewys yn yr ail baragraff ar t. 98-ac y mae'r arddull o'r herwydd yn un hamddenol. Gwnaent ddefnydd helaeth o ansoddeiriau er dwyn urddas i gymal a brawddeg, ac amlygir eu hoffter o droadau ymadrodd a chyffelybiaethau. Ar ddiwedd y llyfr ceir bywgraffiad byr o bob awdur, ac yn dilyn nodiadau cryno a buddiol ar y geiriau mwyaf anodd ac anghyfarwydd. Nod y gyfrol, medd y golygydd, oedd cael testun dibynadwy o ffynonellau neilltuol bwysig i fyfyrwyr hanes, iaith a llenyddiaeth ac yr ydym yn dra diolchgar i Garfield Hughes am ei lafur yn dethol a golygu'r rhagymadroddion hyn, a berthyn i un o'r cyfnodau mwyaf cyfoethog a disglair yn hanes rhyddiaith Gymraeg. ELFYN JENKINS Brethyn Cartref, gan Elizabeth Williams. Gwasg Gomer. 6/ Yr hyn a'm trawodd i wrth ddarllen y llyfr diddorol hwn oedd ­mor iach a hapus ydoedd bywyd pentre flynyddoedd lawer yn ôl y bywyd hwnnw wedi ei drwytho â'r diwylliant Cymraeg ar ei orau, a chrefydd yn sylfaen i'r cwbl. Anodd oedd rhoi'r llyfr o'm llaw cyn ei orffen, gan gymaint ei swyn. Pan ddarllenais Bennod xii, hanes Ysgol y Garn, Sir Gaernarfon, a'r disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddid i gyfleu addysg, y cyfrifoldeb a roid ar yr ysgolheigion (y curators, fel y gelwid hwy), i gadw disgyblaeth, a'r diddordebau y tu allan i'r Syllabus- fel gofalu am y gerddi a chael Miwsiwm y plant, dywedais wrthyf fy hun :-`` Wel dyma ragflaenu, llawer o'r dulliau modern." Wedi cyrraedd diwedd y bennod dyma eiriau'r