Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

awdures am ei brawd, yr ysgolfeistr (Dr. J. Lloyd Williams wedi hynny) :­‘ ‘ Credaf ei fod hanner can mlynedd o flaen ei oes yn ei ddull o gyfrannu addysg." Ar wahân i'r pleser a geir wrth ddarllen y storïau difyr a llawn hiwmor, fel stori'r "Injian ganu "a'r iron tonic," a llu o rai eraill, sydd wedi eu gwau yn gymhleth i wneud defnydd y Brethyn Cartref, y mae gwerth parhaus yn y llyfr oherwydd y disgrifiadau byw a roddir ynddo o gymeriadau ac arferion pobl mewn oes wahanol iawn i'n hoes ni. Nid ydwyf yn rhyfeddu dim fod pawb ynhoff o "Miss Williams y Scŵl." Y mae ei hysbryd hynaws a nwyfus yn ei hanwylo i'r darllenydd hefyd. Fe barha'r Brethyn Cartref hwn yn ei werth, fel y wlanen a weid yn y ffatri y sonnir amdani nad oedd gwisgo allan arni." E. M. LLOYD Llawlyfr y Cynganeddion, gan J. J. Evans. Gwasg y Brifysgol. 3/6. Llyfr defnyddiol iawn ydyw hwn, byr a hylaw, ond yr wyf yn synnu braidd at yr awdur yn trin rhyw fanion astrus fel yr W ansillafog ar y tudalen cyntaf. Y mae ganddo bennod werthfawr ar Troadau a Ffigurau Ymadrodd," ac ar ddechrau Gwers V ceir ymdriniaeth olau ar darddiad y gynghanedd. Nid yw'n hawdd iawn imi drafod rhannau eraill y llyfr, gan fod cymaint ohono wedi ei gopio o'm llyfr i, Y Cynganeddion Cymreig, heb ei gydnabod. Dywaid yr awdur yn ei Ragymadrodd ei fod wedi cael budd o'r llyfr hwnnw a llyfrau eraill-enghraifft go dda, wir, o'r peth a elwir yn gynildeb." Buasai llawer un yn ei alw'n grintachrwydd. D.T.