Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG PRIFATHROFAOL ABERTAWE Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru Prifaihro J. S. FULTON, M.A., Cyn.Gymrawd o Goleg Balliol, Rhydychen Dechreuir gwaith y Coleg am y drydedd flwyddyn ar ddeg ar hugain Hydref 7, 1952. Paratoir ar gyfer (a) Graddau Prifysgol Cymru yn y Celfyddydau, mewn Gwyddoniaeth, Meteleg, a Pheirianneg. (b) Dysgu athrawon ysgol elfennol ac ysgol ganolradd. (c) Arholiad meddygol cyntaf Prifysgol Cymru. (d) Blwyddyn gyntaf y cwrs ar gyfer gradd Baglor mewn PensaernIaeth ym Mhrifysgol Cymru. (e) Rhan ddechreuol y cwrs astudiaeth ar gyfer gradd Baglor mewn Fferylleg ym Mhrifysgol Cymru. (f) Cwrs Diploma yn Arweinyddiaeth a Threfniant Ieuenctid. (g) Cwrs Diploma mewn Gwybodau Cymdeithasol. Cydnabyddir cyrsiau'r Coleg mewn Gwyddoriaeth fel blwyddyn gyntaf cwrs meddygol gan nifer o gorfforoedd sy'n trwyddedu meddygon. Cynigir ysgoloriaethau yn Ebrill bob blwyddyn. Ceir manylion pellach gan- EDWIN DREW, Cofrestrydd, Coleg y Brifysgol, Parc Singleton, Abertawe