Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR CYF.YIII HYDREF 1952 NODIADAU'R GOLYGYDD BYDD yr Eisteddfod Genedlaethol yn siwr o roddi rhyw bwnc neu'i gilydd i ddyn i sgrifennu arno bob blwyddyn, a'r tro hwn yr wyf am fentro am y tro cyntaf erioed i faes beirniadaeth len- yddol. Yr wyf wedi darllen lawer gwaith y bryddest y gwrthodwyd ei choroni, ac wedi ei hoffi (ond nid yn yr ystyr y methodd Euros Bowen ei hoffi.") Mi garwn roi cynnig ar ei dehongli, a dangos peth o'i rhagoriaeth, heb honnify modwediei llwyr ddeallchwaith, ond gan gredu fy mod wedi cael crap arni. Nid wyf am drafod y beirniaid na'r feirniadaeth, ac eithrio rhyfeddu at safonau David Jones, a gondemniodd y bryddest am na allai ei darllen yn gyhoeddus, neu i'w deulu. A garai ef ddarllen pob rhan o'r Hen Destament yn gyhoeddus, neu i'w deulu, tybed ? 0 ran hynny mi fyddwn i'n ddigon parod i ddarllen y bryddest hon i 'nheulu. Cofiaf i Eifion Wyn wrthwynebu coroni T. H. Parry-Williams yn 1915 am ei bryddest, Y Ddinas," oherwydd ei fod wedi por- treadu'r butain ar heolydd y ddinas yn null Llyfr y Diarhebion. Ni fuasai beirniaid heddiw yn condemnio'r bryddest honno. Ond i Eifion Wyn, canu am adar bach a blodau, am fugeiliaid a myn- yddoedd, ydoedd barddoniaeth, ac nid oedd a wnelai hi â phor- treadu pethau hagr ac annymunol. Byddaf innau'n hofiî'r math hwnnw o farddoniaeth, yn enwedig pan fo rhywun fel Eifion Wyn yn ei ganu, ond credaf er hynny fod gan farddoniaeth ehangach gorwelion o lawer na hyn. Credaf y dylai allu rhoddi mynegiant i holl brofiadau a dyheadau dyn, ac mai mynegi'r rhain, o fewn terfynau ei hadnoddau, ydyw pennaf swydd pob celfyddyd- miwsig, barddoniaeth, paentlunio, pensaerniaeth, a'r lleill. Dechreuais ddarlien y bryddest, Y Creadur," yn Y Cymro heb fod gennyf fawr o syniad a hoffwn hi ai peidio. Adwaenwn Harri Gwynn yn ddigon da i wybod nad oedd dim perygl iddo sgrifennu barddoniaeth ffôl neu annheilwng, ond yr un pryd yr oedd yn bosibl y gallai fod wedi ceisio cyfleu rhyw weledigaeth ac wedi methu. At hynny,.yr oedd ei gerdd wedi ei sgrifennu mewn vers libre, ac y mae idiom y beirdd newydd yn ddieithr ac yn anghynefin imi (er hynny, mi fwynheais bryddest goronog LIanrwst). YNG NGHYMRü Rhif 3