Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ac oni wyddost Yr ymbalfala yn sëleri'r ymennydd Chwilod y nos Yn profi'r parwydydd, Yn turio tan y lloriau, Ac yn aros eu hawr ? Pennill arswydus ydyw hwn yn fy marn i, y pennill cryfaf yn y gerdd i gyd. Nid mewn undydd unnós yr aeth y llanc yn llofrudd yr oedd chwilod y nos wedi bod yn tyllu parwydydd ei feddwl yn hir, a phan ddaeth yr hyrddwynt heibio fe chwalwyd y parwydydd, a thorrodd y Creadur yn rhydd. ( "A'i gwymp a fu fawr yw darlleniad y Testament Newydd). Yn ôl syniad y llofrudd-a hwnnw'n ffrwyth ei brofiad -γ Creadur sydd yn oruchaf, a methiant fu ymgais Duw i blannu enaid ynddo yr oedd fel tywallt tipyn o sent i botel gwrw Fy chwilen fach, nid yn ysgafn Y gwnei di i'r bwystfil fradychu ei hil, Ac nid ar chwarae bach Y rhoi di enaid ynddo. Mwy nag y rhoet bersawr drud Mewn potel gwrw A gobeithio cael ohoni fwy Nag arogl cwrw. WTel, dyna gynnig ar roi rhyw fath o agoriad i'r bryddest; fe ddeil i'w darllen a'i hastudio. Y mae cymdeithas lle y bo tuedd gref a chyffredin i ymddwyn yn harchus at bob math o ddynion a merched yn gymdeithas han- fodol iach, er i'w threfn gymdeithasol foddipyn yn gymysglyd. — Olaf Stapledon.