Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PLWM SIR FFLINT GAN C. R. WILLIAMS TAIR blynedd yn ôl, eisteddwn yn y trên rhwng Caer a'r Rhyl, yn ymyl dieithryn o Sais a deithiai y ffordd honno am y tro cyntåf yn ei fywyd. Wrth fynd heibio i Fagillt, edrychodd gyda diddordeb ar y pentref, a dywedodd Y mae'n amlwg fod y Luftwaffe wedi bod yn ymweld â chi yma hefyd." Ac yn wir yr oedd rhyw debygrwydd rhyfedd rhwng Bagillt a rhannau o Aber- tawe ac amryw o drefydd eraill ym Mhrydain a fomiwyd yn ystod y rhyfel. Ond nid cyrch awyr sydd yn cyfrif am yr adfeilion a welir ym Magillt. Yr hyn a welódd fy nghydymaith yn y trên oedd ad- feilion yr hen weithfeydd plwm a wnaeth y lIe unwaith yn un o ganolfannau pwysicaf y diwydiant plwm yn y wlad, os nad yn wir yn y byd i gyd. Anodd credu, heddiw, wrth edrych ar Fagillt, mai yno y masnachwyd y rhán fwyaf o'r holl blwm a gynhyrchwyd ym Mhrydain i gyd ar un amser. Ni ellir dweud pa bryd y sefydlwyd gweithfeydd toddi plwm yn Sir Fflint am y tro cyntaf y mae'r diwydiant yn bod yno ers canrifoedd lawer. Y mae'n lled amlwg eu bod yn toddi plwm yng nghymdogaeth tref Fflint yn amser y Rhufeiniaid. Ceir cyfeiriadau sicr at yr arferiad o drin a gweithio'r metel yno yn ystod y Canol Oesoedd. Yn Siartr Harri III i Abad Basingwerk, rhoddir hawl i'r mynachod i weithio plwm ac arian yn Fulbrooke (yn ymyl Halkyn). Pan sefydlodd y brenin Edwart I castell a bwrdeisdref Fflint, rhoddodd hawl i'r trigolion (Saeson) i weithio plwm ac unrhyw fetel arall yn y dref, ac ar yr un pryd rhoddodd awdurdod iddynt i dorri coed yng nghoedwigoedd y Cymry i'r pwrpas. Y mae'n debyg fod trin a thoddi plwm yn ddiwydiant a sefyd- lwyd ar lannau Dyfrdwy yn Sir Fflint mewn cyfnod bore iawn yn hanes ein gwlad-o leiaf ddwy fil o flynyddoedd yn ôl-a bod trigolion y sir wedi hen gyfarwyddo â thanau'r ffwrneisi yn goleuo awyr y nos ymhell cyn cyfnod y Chwyldro Diwydiannol. Efallai na fu rhyw lawer o lewych ar y diwydiant yn y blynyddoedd y bu Tegeingl yn faes rhyfel rhwng y Cymry a'r Saeson, a rhwng y Cymry a'r Normaniaid, ac etoymae'n sicr na fu'r gwaith farw yri llwyr ar unrhyw gyfnod. Yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisa- beth, y mae'n amlwg oddi wrth adroddiadau'r Siryf yng Nghaer nad oedd llawer o lewych ar weithio plwm yn y sir oherwydd prin-