Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SANT TOMAS O ACWIN GAN C. WYNDHAM EVANS "V[I all Cristionogion, nac yn wir neb tu allan i'r eglwys, fforddio anwybyddu'n llwyr Sant Tomas o Acwin. Saif yn gyfochr ag Awstin Sant, yn rheng ffaenaf meddylwyr Cristionogol y Gor- llewin. Ni pherthyn y ddau hyn i unrhyw ysgol neilltuol, nac i "gangen" arbennig o'r eglwys, eithr i draddodiad cyffredinol Cristionogaeth. Nid oes nemor erthygl na chyffes o'n ffydd heddiw na chyffyrddid arno mewn rhyw fan gan weledigaeth y ddeuddyn hyn. Ganwyd St. Tomas yn 1225, a bu farw yn 1274. Rhwng y blyn- yddoedd hyn fe wnaeth gyfraniad i feddwl Ewrop na cheir mo'i hafal ond yng ngwaith ychydig iawn o feddylwyr. Parodd chwyldro dros faes eang y meddwl Cristionogol. Cyn ei amser ef, arddelai meddylwyr Cristionogol foddau meddyliol a darddai o waith Platon. Ystyrid Platon y mwyaf defnyddiol o'r hen feddylwyr. Yr oedd ei athroniaeth ef yn grefyddol ei naws, a chanfyddai Cristionogion y gallent arddel yn helaeth ei agwedd tuag at y bydysawd. Gwelai Awstin nad oedd dim yn »thrawiaeth Platon nad oedd yn gydnaws â dysgeid- iaeth Gristionogol parthed y greadigaeth. Airwytíyddwyd bron yn llwyr feddyliwr mawr arall yr hen fyd clasurol, sef Aristotlys, ac ni feddylid amdano ond fel rhe^ymegwr sychlyd. Ond ynghwrs amser fe sylweddolwyd nad ydoedd Platon wedi'r cwbl yn gaffaeliad mor ddefnyddiol ag yr oeddid wedi tybio. Yr oedd Platon yn feddyliwr crefyddol," eithr pagan ydoedd. Seilid y traddodiad Cristionogol yn y pen draw ar y syniad Hebreig am Dduw, dyn a'r byd, a rhwng y traddodiad hwn a syniad Platon o'r berthynas rhwng y greadigaeth a Duw yr oedd gwahaniaethau enbyd mewn ambell fan. Sylweddolodd St. Thomas fed athron- iaeth Aristotlys mewn gwirionedd yn fwy defnyddiol i ddibenion Cristionogol-a hynny oherwydd bod Aristotlys mor ddigrefydd. Mewn gair, yr oedd absenoldeb crefydd yng ngwaith Aristotlys yn ddiogelach na'r gau-ddiwinyddiaeth a geid ym meddwl Platon. Gorchest fawr St. Tomas ydoedd cymhwyso'r athroniaeth Aristotelaidd a'i gwneud yn gyfrwng mynegiant diwinyddol cyf- lawn, ac un o brif amcanion ei waith oedd cymodi moddau priod athroniaeth â gwirioneddau -ysbrydol a diwinyddol, a chysoni