Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARLOESWYR 7. THOMAS JONES GAN HAROLD M. WATKINS yj" MAE nifer o Thomas Jonesiaid digon adnabyddus yng Nghym- ru, ond nid oes ond un T.J. Ystrydeb fyddai dweud ei fod wedi chwarae rhan amlwg ym mywyd Cymru. Llai na'r gwirionedd hefyd, oblegid bu ganddo ddylanwad mawr ar bolisi Llywodraeth Prydain Fawr gartref, ac ar ei pholisi dramor dros nifer fawr o flynyddoedd. Yn wir, er troad y ganrif y mae'n ffigur nodedig ym mywyd economaidd a diwylliadol, nid Cymru yn unig, ond Prydain Fawr i gyd. Y mae hyd yn oed restr o'r gwaith a gyflawnodd, ac o'r anrhyd- eddau a dderbyniodd, yn un drawiadol. Nodaf rai ohonynt, gan eu trefnu'n fras yn ôl tri chyfnod ei oes ddiddorol-y cyfnod academaidd, y cyfnod gweinyddiadol, a'r cyfnod anrhydeddus (yr elder statesman, yn llwythog o anrhydedd, ac yn llywydd neu gadeirydd y peth yma a'r peth arall) (1) Proffesor Cynorthwyol ar Economeg Wleidyddol a Dar- lithydd ar Economeg ym Mhrifysgol Glasgow Darlithydd i Ddosbarthiadau Allanol yn Iwerddon yn ystod yr amser y bu. yn Glasgow Proffesor Economeg ym Mhrifysgol Belfast. (2) Ymchwiliwr Arbennig i'r Ddirprwyaeth ar Ddeddf y Tlod- ion Ysgrifennydd yr Ymgyrch Genedlaethol Gymreig yn erbyn y Darfodedigaeth Ysgrifennydd Dirprwywyr Yswiriant Iechyd tros Gymru.; a Dirprwy Ysgrifennydd y Cabinet.. (3) Ysgrifennydd y Pilgrim Trust Cadeirydd'y Yorlc Trust Cadeirydd Gwasg Gregynog (bu ganddo erioed ddiddordeb mewn argraffu a rhwymo llyfrau yn hardd) Llywydd Coleg Harlech Llywydd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth Cadeirydd y Ddirprwy- aeth Frenhinol ar Hen Gofadeiliau yng Nghymru Ymddiried olwr i'r Observer &c. Ar ben hyn oll, cafodd T.J. amser o dro i dro i sgrifennu. Ac ysgrifennwr da iawn ydyw, a chanddo arddull hyfryd a chryno, a mwy na chyffyrddiad o wreiddioldeb yn ei ffordd o ddweud rhywbeth. Heblaw ei sgrifennu swyddogol, megis ei Adroddiadau ar.Gym- orth Allanol, golygu cyfrol o Draethodau Mazzini, a golygu Second