Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EIRA DU GAN IDWAL JONES T)UM mlynedd i heddiw y priododd y wraig a minnau, ac yn rhyfedd iawn mae'n bwrw eira heddiw eto. Felly yr oedd ar ddydd ein priodas, ac felly y dydd y cyfárfuom â'n gilydd am y tro cyntaf. Yn wir, oni bai am eira, 'fuaswn-i erioed wedi ei gweld hi, mae'n debyg Dwrnod yr eira mawr hwnnw, ryw chwe blynedd yn ôl, oedd hi, a hynny mewn lle digon rhyfedd a than amgylchiadau rhyfedd- ach fyth. Hwyrach y gwyr rhai ohonoch am y lle­-Tyddyn-y-gwynt, y gwesty hen-ffasiwn hwnnw sy'n llochesu wrth fôn y graig ar y tro diwaethaf cyn ichwi ddod i ben Moel yr Eryr. Lle braf iawn ydyw yn yr haf, fel y gwyr y cannoedd a'r miloedd o bobl ddieithr sydd wedi bod yno. Ond lle melltigedig ydyw yn y gaeaf, mi gymeraf fy llw ac os oes rhywun yn fy amau, cymerwch seibiant ym mynwent fach Hendre Ddu ar waelod y mynydd-fe. fydd beddau'r teithwyr anffodus yn dystion imi. Mae'n debyg mai meddwl fy mod yn fwy o ddyn nag oeddwn a barodd i minnau fentro'r mynydd y diwrnod hwnnw. Wedi bod yn Rhyd-dywyll yn cynrychioli'r teulu mewn angladd y diwrnod cynt yr oeddwn. Wrth ddal pen-rheswm efo Wil fy nghefnder. yn lle bwyta fy mrecwast a mynd, mi gollais yr unig fws a red o'r pen-draw'r-byd hwnnw i Gaernarfon. Gwelwn ei bod-hi'n hel am storm, ond yr oeddwn eisoes wedi colli tri diwrnod o waith ar gorn y marw. Pe cerddwn i'r dre, yr oedd yn bosibl y byddai'r bws olaf am Dal-y-Nant wedi mynd. ac felly nid oedd dim amdani ond mentro'r mynydd a gobeithio'r gorau. Duo'n fwyfwy a wnâi fel yr 'awn ymlaen, ond arhosodd y storm nes ei bod yn rhy ddiweddar imi droi'n ôl. Aeth cyn dywylled â'r nos ac yna dechreuodd fwrw eira. Ar y dechrau, deuai i lawr yn dameidiau tewion, diog, ond fel y codwn innau i'r mynydd codai'r gwynt hefyd, a hwnnw'n wynt gwrthwynebus. Rhwng yr eira dan fy nhraed a hyrddiadau'r storm i'm hwyneb, yr oedd milltir cyn belled ag y medrwn fy llusgo fy hun mewn awr o amser. Pan gyr- haeddais ben y bwlch ar ael y Foel, yr oedd^^di pedwar ac wedi nosi, a'r gwynt fel creadur cynddeiriog yn troelli yno, a'r ffordd