Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PANNWR GAN R. E. WILLIAMS TsJI wn i sicrwydd beth yw hanfod gwreiddioldeb mewn cymer- iad, ond gwn mai nid addysg mohono. Yn oes manteision addysg fodern, onid yw pobl yn ymdebygu i'w gilydd o ran eu cefndir a'u ffordd o feddwl ? Pobl brin eu manteision addysg fu'r bobl wreiddiol a gyfarfûm i erioed. Xi chafodd William Edwards, neu Y Pannwr," fel y gelwid ef. nemor ddim addysg ysgol ddydd, ac eto ef oedd y cymeriad mwyaf gwreiddiol a welais erioed. Ganwyd ef ym Mhandy Gwylan, yn ardal Gellilydan, ym Meirion, yn y flwyddyn 1874. Yno y treuliodd ran helaeth o'i oes cyn symud i fyw i'r pentref. Cladd- wyd ef Hydref 2, 1949, ym mynwent Utica, ryw dri neu bedwar lled cae o fan ei eni. Dyna driongl daearyddol ei fywyd, a rhyw ddwy filltir yw cyfanswm y pellter rhwng y tri lIe. Treuliodd ei oes o fewn y cylch bychan hwn. Cylch bychan mewn ystyr ddaearyddol, ond un cyfoethog mewn hanes a thraddodiad. Onid dyma ardal Edmwnt Prys, Lowri William o Bandy'r Ddwyryd, Huw Llwyd o Gynfal, yr hynod William Ellis o Faentwrog, a'r twrne Llwyd o Gefnfaes-pobl hynod yn eu hoes a'u cylch ? Deil ysbrydion y gorffennol i gyniwair drwy hen anheddau'r ardal. Daw dydd pan chwanegir enw Y Pannwr" at oriel cymeriadau hynod y cylch. Dyn tal, tenau, a'i war yn crymu, treiddgar ei edrychiad a gloywei lygaid, ydoedd pan adwaenais ef. Ni allech fod yn ei gwmni yn hir heb sylweddoli ei fod yn ddyn hynod iawn, er mai prin fyddai ei eiriau bob amser. Yr oedd yn enwog am ei gyffur i wella'r ddafad wyllt. Etif- eddodd y gyfrinach oddi wrth ei dad a'i daid, a chadwodd hi iddo'i hun gydol ei oes. Pwy yn ardal Gellilydan na chlywodd am Blas- tar Pannwr ?" Deuai pobl ato o bell ac agos i geisio gwellhad o'r ddafad wyllt, ac ni siomwyd yrun. Gallai siarad am oriau am gyf- rinion y "ddafad." Dywedodd wrthyf fod tri ar hugain o fathau ohoni, a phob un yn gofyn am driniaeth wahanol Gan fod y gyfrinach hon ganddo, rhaid oedd iddo wybod rhywbeth am drefn y corff dynol, a chasglodd lawer o wybodaeth ar y pwnc. Astudiodd ddeddfau iechyd," chwedl yntau, a gallai siarad yn huawdl am beryglon anwybyddu'r deddfau hyn, megis