Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDE>>Y ■PJETHAU B¥CHAIN GAN H. EVANS THOMAS DROS ddeugain mlynedd yn ôl yr oeddwn wedi mynd am dro gyda'r Nos Sadwrn i bentref Llanberis o'r Nant, wrth gysgod neuyngrigiiesaflyrWyddfa. Henarfergennymfyddai'rtrohwn, cer- dded ôlablaen, wrth gwrs, rhyw ddwy filltir rhwng y ddau bentre. Dim sôn am fws y dyddiau hynny, a neb yn gofidio am hynny chwaith. Gwir ein bod yn amddifaid o gyfleusterau'r dyddiau hyn, ond gwyddem beth oedd hapusrwydd yn nhawelwch gwlad, er garwed y drin yn awr ac eilwaith wrth droi'r cerrig yn fara ar foel- ydd Eryri. Ond i ddod yn ôl i'r lle y cychwynnais, y Nos Sadwrn hwnnw. Cofiaf gyfarfod â chyfaill a adwaenwn yn dda. Owi y galwem ni ef, ond Owen Hughes oedd ei enw, chwarelwr ifanc fel fy hunan, a theimlem ryw ias o anniddigrwydd ac anfodlonrwydd ar bethau fel y ceid hwy yr adeg honno­-yn ddiwydiannol, yn arbennig. Cofiaf ei gwestiwn, Ddoi di i berthyn i'n dosbarth ni o dan nawdd Coleg Bangor ? Fe'i cynhelir bob Nos Fercher yn Ysgol Dolbadarn." Dosbarth mewn beth ?" meddwn innau. Econ- omics," atebodd Owi. Beth yw hwnnw ?" gofynnais wedyn, a'r ateb oedd "'Dwn i ddim." Pwy fydd yr athro ?" Bob Richards, o Goleg Bangor. Mae-o'n ddarlithydd yno." Addewais y byddwn yno y Nos Fercher canlynol, os byw ac iach. Cedwais yr addewid, ac ni fu'n edifar gennyf. Yr oedd nifer lled dda ohonom yn y ddarlith gyntaf, Hydref 11, 1911, rhywle tuag 20 neu ragor, chwarelwyr gan mwyaf. Myfi yn unig a gynrychiolai ardal Nant Peris, a golygai myndadodi'r dosbarth bedair milltir o gerdded wedi llafur y dydd yn y chwarel. Ond yr oedd yr athro mor wych, y maes mor ddiddorol, gwn na chollais yr un dosbarth am bedwar gaeaf a gwanwyn, ac ni chwynais am y daith. Hyfryd yw'r atgof am y dosbarthiadau hynny. Cawsom un o'r athrawon gorau a gafodd neb erioed, heb ei gyffelyb yn ei fwynder naturiol, teilwng o Faldwyn, sir ei gartre. Ei lais dymunol, ei allu i ddatod cylymau ym myd meddwl, i agor ein deall a'n dwyn wyneb yn wyneb â phroblemau'r gwerinwr a'i alwedigaeth yn ei rych cartrefol ei hun, ac ehangu ein gwelediad am gylchoedd eraill yn y byd trefnidiol a diwydiannol.