Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Chwith yw cofio bod Rhyfel 1914-18 wedi dechrau cyn i'n dosbarth gychwyn yn y Nant, a llesteiriodd lawer arno. Erbyn hyn, nid oes a erys ond nifer fach o'r Dosbarth Paratoawl a gaed yn y Nant. Collwyd rhai ohonynt ar faes y gwaed, yn Ffrainc, Palestina, a'r Dardanelles. Gofynnwn, â thristwch lond ein henaid. I ba beth y bu'r golled hon ?" Cefnais ar y chwarel yn gynnar yn 1915, drwy gael ysgol- oriaeth fel aelod o'r dosbarth i Goleg Fircroft, Birmingham, ac yno ddod dan gyfaredd y diweddar TomBryan, prifathro'r coleg, a hefyd Dr. Rendel Harris a Dr. H. Wood, Woodbrooke Settle- ment, ac wedi hynny ymateb i alwad y Weinidogaeth a dechrau pregethu. Parhaodd fy niddordeb yn achos Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, a chefais y fraint o fod yn athro dosbarth o dan Goleg Bangor yng Nghoedllai, ger yr Wyddgrug, am bum mlynedd. Gwych o beth yw dosbarthiadau allanol y brifysgol yng Nghym- ru. FeJ un a dderbyniodd.lawer drwyddynt ym more oes, dymun- af Iwyddiant mawr iddýnt yn y blynýddbedd i ddod. Pan gyfarfum â Lenin, gwnaeth lawer llai o argraff arnaf ei fod yn ddyn mawr nag a ddisgwyliwn yr argraffiadau cryfaf a gefais amdano oedd ei gulni meddwl a'i greulondeb Mongolaidd. Pan ofynnais gwestiwn iddo ynghylch sosialaeth mewn amaethydd- iaeth, eglurodd imi yn afieithus y modd yr oedd wedi cynhyrfu'r gwladwyr tlodion yn erbyn y rhai cyfoethog, a dyna-nhw'n i crogi-nhw ar y pren agosa i law—ha ha ha Yr oedd ei grechwen wrth feddwl am y rhai a lofruddiwyd yn peri i 'ngwaed— fynd yn oer o'm mewn. — Bertrand Russell. LENIN-Ni wnaeth ddim argraff o gwbl arnaf i o, hunan- bwysigrwydd na chulni meddwl. Meddyliaf amdano o hyd fel gẃr na niweidiai o'i fodd yr un enaid byw. — George Lansbury. Dywaid Ifor Williams mai Môr Iwerddon ydyw ystyr yr enw Môr Iwerydd", o'r hen enw ar Iwerddon, Iveris.