Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS VN gyntaf peth, llongyfarchwn Caradog Jones, Mynytho, yn gynnes iawn am yr anrhydedd a dderbyniodd oddi ar law y Brifysgol. Gellir yn eithaf onest hefyd ddweud i'r Brifysgol ei hanrhydeddu ei hunan drwy roddi gradd M.A. anrhydeddus iddo. Y mae Caradog Jones wedi gwneud gwaith addysgol amhrisiadwy yn Llyn yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddar. Gweithiodd yn ddi-baid i ennyn diddordeb y werin mewn addysg, ac i drefnu dosbarthiadau ac athrawon ar eu cyfer. Ffynnodd gwaith Cyd- Bwyllgor y Coleg a'r WEA yn Llyn drwy ymdrechion diflino Caradog J oneff. Cynháliwyd Aduniad Myfyrwyr Dosbarthiadau Allanol y Coleg a'r WEA yng Ngholeg ý'BrîfySgol, Bangór, ~ar Ebrill 19, pryd y cafwyd anerchiadau gan Iorwerth Peate a W. Lester Smith-¾ y ddau wedi eu magu yn Llanbrynmair Cadeiriwyd gan y Prif- athro, D. Emrys Evans. Ar Fehefin 28, cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol WEA y Rhan- barth, yn Nhreffynnon, pryd y cafwyd anerchiad amserolganR. E, Vaughan Roberts, ar Wyddoniaeth ac Addysg Rhai mewn Oed." Yr oedd y gangen leol wedi gwneuthur trefniadau hwylus ar ein cyfer, ac wedi darparu te blasus i bawb. Y mae'r Ysgolion Pen-Wythnos a drefnwn ar gyfer Undebwyr yn parhau'n boblogaidd. Cynhaliwyd tair Ysgol Ben-Wythnos yn ystod y tri mis diweddar-un yn Abergele ar gyfer Undebwyr y tir, a Chadvan Jones yn darlithio ar Bwyd a'r Bobl un arall yng Ngholeg Harlech, a Gwyn Erfyl Jones yn darlithio ar Ath- roniaeth Gymdeithasol a'r drydedd ym Mangor, ac I. Dan Harry, Warden Coleg Harlech, yn darlithio ar Robert Owen o'r Dre- newydd." Ysgolion da neilltuol i gyd. Yn ystod yrwythnos Gorffennaf 12-19, cynhaliwyd Ysgol Haf Cyd-Bwyllgor y Coleg a'r WEA yn Neuadd Reichel, Bangor. Pwno yr astudiaeth oedd Y Chwyldro Diwydiannol Newydd." Yr oedd gennym banel gwych o ddarlithwyr i ymdrin â chyfnewidiadau diwydiannol, economaidd a chymdeithasol y ganrif hon. Cefais gyfle i ymweld â llawer o'r canghennau, a chafwyd cyfarfodydd da iawn yn rhai ohonynt. Dyma rai o'r canghennau yr ymwelwyd â hwynt :-Dolgellau, Collen, Isaled, Dyffryn