Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY CYNHALIWYD Rali Flynyddol yMyfyrwyra'rAthrawon eleni mewn tri lIe, sef Caerdydd, Abertawe ac Aberystwyth. Daeth tua 700 o fyfyrwyr i Gaerdydd Mai 17, a chafwyd darlith gan J. S. Fulton, Prifathro Coleg y Brifysgol, Abertawe, ac yn yr hwyr gan Gadeirydd y Rhanbarth, Dr. Olive A. Wheeler. Cynhal- iwyd Cyngerdd yn Nheml Heddwch yn y prynhawn a'r hwyr. Mehefin 21 yr*oedd y Rali yn Abertawe, a C. R. Morris, Is-Gang- hellor Prifysgol Leeds, yn brif siaradwr ac yn Aberystwyth caf- wyd dau siaradwr ar gais y myfyrwyr Cymraeg, sef T. H. Parry- Williams yn Gymraeg, a Gwyn JonesynSaesneg, y ddau yn Broff- esoriaid yng Ngholeg y Brifysgol. Yn ein Cyfarfod Blynyddol, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar Orffennaf 19, a Dr. Olive A. Wheeler, yn y gadair, cyflwynwyd ein Hadroddiad Blynyddol am 1951-52. Ar drothwy dathlu Hanner- Canmlwyddiant sefydlu'r WEA, teimlem ein bod yn gwneud mwy na dal ein tir mewn amseroedd go galed. Nid yw rhif ein Cang- hennau cyn uchel ag y carem iddo fod, ond bu ychydig bach o gynnydd yn rhif eu haelodau. Dyma restr o'n Canghennau Abercenffig, Aberdâr, Aberpennar, Abertawe, Bargoed, Bryn Mawr, Casnewydd, Castell Nedd, Caerdydd, Caerfyrddin, Y Fenni, Glyn Ebwy, Llanelli, Llwchwr, Merthyr, Penarth, Pontardawe, Pontardulais a'r Cylch, Pontypridd, Port Talbot, Rhondda Uchaf, Rhydaman, a Threforus. Bu cryn weithgarwch yn ystod y flwyddyn i drefnu- gwell cydweithrediad rhwng y WEA a'r Undebau Llafur, drwy gyfrwng y WETUC (Workers' Educational Trades Union Committee). Trefn- wyd nifer dda o- Ysgolion Bwrw Sul ac Ysgolion Undydd gennym yn arbennig ar gyfer Undebwyr Llafur, ac er mwyn pwysleisio ochr Undebaeth Lafur ein mudiad yr wyf am neilltuo'r rhan fwyaf o'm Nodiadau y tro hwn i roddi rhestr o'r Ysgolion hyn Ysgolion Bwrw Sul Coleg y Fro, Rhoose, Gorff. 14-15, 1951, Y Stiward Siop fel Swyddog Undeb Llafur," gan N. S. Ross. (Ysgol arbennig i Stiwardiaid Siopau y T. & G.W.U.). Castell Dunraven, Southerndown, Medi 29-30, 1951. Y Safle Gydwladol," D. Hughes Lewis. Glan-y-Môr, y Barri, Hydref 13-14, 1951, "Problem yr Al- maen," I. G. John.