Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

0 GOLEG HARLECH GANi DAN HARRY DAETH y tymor hwn i ben mewn awyrgylch gwirioneddol gyd- wladol. Yn ystod yr wythnosau olaf o'r tymor, ac yn wir am wythnos ymhellach wedi i'n myfyrwyr ni ganu'n iach i Goleg Harlech, bu yma fintai o fyfyrwyr o Ysgol Werinol Askov yn Nen- marc. Eu bwriad oedd astudio problemau Addysg Rhai mewn Oed trwy Brydain yn gyffredinol, ac yng Nghymru yn neilltuol, ac i'r amcan hwn fe drefnwyd rhaglen arbennig ar eu cyfer, yn cynnwys darlithiau a thrafodaethau yn y Coleg, a hefyd deithiau ar hyd a lled Gogledd Cymru er mwyn iddynt gael syniad clir o fywyd addysgol, cymdeithasol a diwydiannol y rhan yma o'r wlad. Wedi iddynt orffen y rhaglen, gallant hawlio eu bod wedi dod i gyswllt uniongyrchol â bron bob agwedd o'r bywyd Cymreig yng Ngog- ledd Cymru, o Amlwch ym Môn i Ddinás Mawddwy ym Meirion, o Ddolgellau yn y gorllewin i Wrecsam yn y dwyrain, ac o uchel- diroedd Eryri i ddyfnderoedd Glofa Gresford, lìe cawsant gyfle i weld y glowr wrth ei waith. Cawsom gyfraniadau gwerthfawr i fywyd y Coleg oddi wrthynt hwythau hefyd, a gobeithio mai blaenffrwyth fydd yr ymweliad hwn o lawer cyffelyb yn y dyfodol, pan welir nid yn unig fyfyrwyr Denmarc yn ymweld â Chymru ond ein myfyrwyr ninnau yn cyrchu tua'r Cyfandir. Yr ydym yn dra diolchgar i'r cyfeillion a'i gwnaeth hi'n bosibl inni drefnu'r ymwel- iadau â'r ffermydd, y ffatrïoedd, yr ysgolion, y chwarelau a Glofa Gresford. Ar wahân i hyn, dilyn y patrwm arferol fu ein hanes am y tymor hwn. Ond pan ddaeth hi'n amser inni ymwasgaru, trawyd y staff gan un ffaith a ddaeth i'r amlwg wrth inni holi i mewn i ddyfodol ein myfyrwyr. Pan sefydlwyd Coleg Harlech, rhoddwyd pwyslais ar„ ei swyddogaeth fel coleg preswyl i weithwyr a oedd yn awyddus i ymneilltuo am flwyddyn, nid yn gymaint gyda'r bwriad o fynd ymlaen â'u haddysg mewn sefydliadau eraill, ond i ddyfnhau eu diddordeb ym mhethau'r meddwl, i ddatblygu eu personoliaeth, ac i'w cymhwyso'ü hunain' ar gyfer rhyw ffurf neu'i gilydd o wasanaeth cyhoeddus a chymdeithasol. Y mae'n wir fod enghr^ifftiau, a'r rheini'n enghreifftiau disglair, o fyfyrwyr a aeth ymlaen i golegau'r Brifysgol, ac i golegau eraill, hyd yn oed yn nyddiau ieuenctid Coleg Harlech, ond eithriadau ydoedd y