Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Crwydro Ceredigion gan T. I. Ellis. Gwasg Llandebïe. 12 /6. Gwaith go anodd yw beirniadu'r llyfr hwn, y mae mor dda ac mor ddiddorol. ,Yn dda am ei fod yn gorwedd ar.waelod dwfn o wybodaeth, yn ddiddorol am fod yr iaith yn glir, syml, cartrefol, heb fursendod gormod coethder, a heb syrthio i wamalu gyda Chardis pen hewl. Gwelir yma ffrwyth darllen eang, ymgomio i bwrpas, a'r medr i ddewis y pethau pwysicaf (nid bob amser, fel y gwelir ymhellach ymlaen). Y mae'n galondid i ddyn meidrol er hynny nad yw'r awdur wedi cyrraedd pegynau perffeithrwydd, canys y mae yma fwy nag un anghywirdeb. Hoffwn wybod pa obaith oedd i'r Cyrnol o Nanteos achub castell Aberystwyth yn 1647 (t.16). Go brin fod diwygiad mawr wedi dilyn pregethu Humphrey Jones o Dre'rddôl cyn iddo fudo i America yn 1854 (t.24) gwell cadw'r term hwnnw at gynyrfiadau mawrion 1858-59, wedi iddo ddod yn ei ôl. Plwy yw Ysgubor-y-Coed, nid pentref (gwêl y màp rhwng t.24 a 25). Nid creadigaeth newyddanedig yw Llandre (t.20), ond hen hen enw, â chenedlaethau o lafar gwlad y tu ôl iddo. Er cyfoethoced y llyfr hwn, y mae Sir Aberteifi'n gyfoethocach. Ffordd arall o ddweud y medrai Mr. Ellis ysgrifennu llyfr arall ar Grwydro Ceredigion cymaint â hwn, troedio llwybrau newydd sbon, a sylwi ar beth wmbredd o gymeriadau na sonnir amdanynt yma. Yn wir, crwydro canol y sir yw nerth mawr y gyfrol dan sylw nid yw'r driniaeth ar y godre lawn cystal; am y gogledd. gwlad y Cardis gwirioneddol bron na ryfygir cyhoeddi'r gair "guan" arni. Grand Hotel, meddai ef, oedd hen enw Pant-y-Fedwen yn y Borth (t.22) i ble'r aeth yr anferth enw Hydrcpathic ? Ac oni chollwyd cyfle i sên am broffwydoliaeth Azariah Shadrach am godi dinas ar dwyni Moelynys, ac fel y cofiodd pobl yr Ynyslas am y broffwydoliaeth honno pan ddechreuwyd codi nifer o dai newydd- ion yn y fangre yn y nawdegau cynnar ? Thomas Richards o Hir- nant, ger Ponterwyd (t.37) ie, eithaf gwir, ond oni fu Thomas Jones, yr efengylydd enwog o Creaton, yn gurad yn yr un plwy o'i flaen, 1774-79 ? Cyfle arall a gollwyd oedd sylwi ar dafodiaith y Cardis yn tewi'n stond wrth Afon Gerwyn y tu draw i ffordd y Ladi Wen a gwastad yParc, oherwydd yr afon fechanhon. yw'r terfyn gwirioneddol rhwng De a Gogledd, ac nid y Llyfnant. Ar