Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y cyfan. Y mae diolch yn ddyledus i'r awdur am ddwy gymwynas arbennig, sef atgofion ei fam am Ysgol Sul y Cwrt Mawr a'r Cwrdd Gweddi (t.61-63), a disgrifiad Sarnicol o ffeiriau Capel Cynon (t.91-92). Os (fel yr addewir) y gyntaf o gyfres yw y gyfrol Crwydro, bydd yn waith anodd cadw at safonau uchel y teithiwr cyhyrog athrylithgar o Aberystwyth. Ond rhaid-yw gwneud rhywbeth â Gogledd Ceredigion. Ail- argraffiad gydag ychwanegiadau, gan adael allan y wib ddiang- henraid tros drumau Pumlumon i Fachynlleth (t.27-28)? Annig- onol, y mae lle i ofni. Llyfr cyfan ar ogledd y sir ? Reiol. Yn niffyg hynny, yn y dyddiau costus hyn, da fyddai i'r awdur ddod i fyny i Neuadd Tal-y-Bont ganol y gaeafnesaf, sachliainlwyd hir yn cyrraedd hyd at ei draed, y Ficer Ponsford o'r Llandre yn y gadair, ac arfer llawn gyfiawnder â'r hen ardal enwog, ar ei llwyb- rau, a'i henwogion, a'i thraddodiadau. Y mae'n wir fod R. T. Jen- kins ar y siaced lwch wedi clyfar gyfleu amddiffyniad iddo drwy gyfeirio at ras ataliol yr awdur ynghanol llwybrau di-ri'r sir a'r clystyrau Cardis. Ond paham cyfaddasu'r gras ataliol at Dal-y- Bont o bob man yn y byd ? Egluro gweithrediadau y gras peryg- lus hwn fydd pennaf diddordeb yr araith. Deuwn o bell ffordd i synhwyro ymateb Tom Lewis Owen yr Annibynnwr ac Inigo Jones y Bedyddiwr i efengyl yr iawn a'r ymddiheurad. THOMAS RICHARDS Prize Onions and Other Stories, gan E. Eynon Evans. Silurian Books. Llyfrau'r Dryw. 2/6. Nid yw'r storïau hyn yn uchelgeisiol a chredaf mai cam a wneir â hwy o'u beirniadu yn ôl safonau haearnaidd lenyddol. O'r safbwynt hwnnw y mae iddynt ddiffygion amlwg, megis diffyg cynildeb ac undod. Serch hynny, gwn y rhydd y storïau hyn fwynhad mawr i'r sawl a'u darlleno. Credaf fod darllen y stori, Prize Onions, yn llawer gwell na gwrando arni ar ffurf drama ar y radio. Efallai mai yn y stori gyntaf, The Organ Blower, y mae'r awdur yn fwyaf ymwybodol ohono'i hun fel llenor. Diddori yn hytrach na chreu llenyddiaeth oedd nbd yr awdur, mi gredaf, ac yn hynny bu'ri bur llwyddiannus.