Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

La Fontaine Chwedlau. Cyfieithiad gan Ifor L. Evans. 3 /6. Boccaccio Detholion o'r Decameron. Cyfieithiad gan T. Gwynfor Griffiths. 4 /6. Y ddau yng Nghyfres fy Werin. Gwasg Prif- ysgol Cymru. Y MAE cryn ddiddordeb yng Nghymru heddiw yn llenydd- iaeth Ffrainc. Cawsom eisoes gyfieithiadau o rai o ddramâu Molière, troswyd rhai o straeon gorau Maupassant i'r Gymraeg, a chlywsom ar y radio gyfieithiadau o ddramodwyr cyfoes Ffrainc. Darllenais â blas anghyffredin yn ddiweddar gyfieithiadau gan Ifor L. Evans o rai o chwedlau La Fontaine. Ni fwriadaf drafod yn fanwl ragoriaethau'r llyfr fel cyfieithiad. Ni ddisgwyliwn i gyneithiadfodcystal â'r gwreiddiol, ond priodol yw dweud bod y cyfieithiad hwn yn un gwirioneddol dda. Yn wir, bron na ddywed- wn fod ambell chwedl a geir yma, yn enwedig Y mynydd yn esgor ar lygoden," yn llawn mor dwt ac arwyddocaol yn Gymraeg ag yn Ffrangeg. Chwedlau a gwers ynddynt a gawn-ni yma. Fe gymerodd La Fontaine ei ddeunydd o waith awduron di-rif, yn enwedig Aesop a Phaedrus. Yr ydym i gyd yn gyfarwydd â chwedlau Aesop, ond cofiwch mai'r deunydd crai yn unig a gymerodd La Fontaine ganddo. Y mae ei driniaeth o'r pynciau-a dyna sy'n gwneud La Fontaine yn un o gewri oes glasurol Ffrainc-­·yn dra gwahanol. Gwers foel a gawn-ni gan Aesop, a'r wers y'wnod a phwrpas y chwedl. Ond nid y wers, pa mor adeiladol bynnag ý bo, sydd yn cyfri gyda La Fontaine. Yn wir, ystrydebol yw hi yn aml. Peg yn unig yw'r wers i'n hawdur i osod arno ddrama goeth, byr o eiriau a'r rheini wedi eu detholyn artistig, drama ag iddi gymer- iadau byw, yn siarad eu hidiom naturiol, a'r cyfan wedi ei wau'n glos ac yn gynnil o'r frawddeg gyntaf i'r diweddglo. Pan ddarllenwn y llyfr yma, deallwn beth a olygir wrth yr ysbryd Galeg "-y rhinwedd a geir yn awduron gorau Ffrainc, yr hiwmor iach hwnnw, y siarad heb flewyn ar dafod, yr eironi treiddgar. Ysgrifennu i difyrru yr oedd La Fontaine, nid pre- gethu. Ond eto y mae yma ddychan ddihafal ar y gymdeithas yr oedd yn byw ynddi. Teipiau o'r ddynol-ryw a gawn-ni yn y gwahanol anifeiliaid. Y brenin ydyw'r Llew (nid Lewis XIV yn arbennig, ond unrhyw frenin). Y ffalsiwr ydyw'r Llwynog. Fe ddysg pob anifail inni rywbeth arwyddocaol am y natur ddynol.