Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwybod a.m Dduw, gan Hywel D. Lewis. Gwasg Prifysgol Cymru. 6 ı`-. Pair cynllun y llyfr hwn inni feddwl am gynllun Pringle- Pattison yn ei ddarlithoedd enwog, The Idea of God. Fel Pringle- Pattison, y mae'r Athro Hywel D. Lewis yn egluro acynamddiffyn ei safle trwy gyfrwng adolygiad ar safle awduriaid eraill. Dywaid yn ei Ragymadrodd Tybiais y byddai'n fwy buddiol (na gwers- lyfr) i wau ymdriniaeth ar rai o'r prif lyfrau crefyddol diweddar i mewn i drafodaeth o broblem sylfaenol ein gwybodaeth am Dduw, a sylwi ar y llyfrau hyn fel y deuid ar eu traws yng nghwrs yr ym- resymiad." Fe gred Mr. Lewis mai Bod Trosgynnol ydyw Duw-y Cwbl Arall, pell uwchlaw i ddeall dyn." A dyna un rheswm paham y golyga" Duw" gyn lleied i lawer mewn oes wyddonol fel yr oes hon. Cafwyd y fath hwyl ar olrhain cysylltiadau terfynedig meidrol pethau, nes colli'r ymwybyddiaeth â'r anfeidrol." Ac eto, y mae Duw yn agos atom, yn ynni creadigol yn ein holl brofiadau, ac er na allwn ei amgyffred gallwn ei adnabod. Ni allwn brofi" bod Duw. Ni all meddwl meidrol dyn brofi onid gwrthrychau terfynedig, ac, heb enwi anawsterau eraill, nid bod meidrol, terfynedig, ydyw Gwrthrych ein haddoliad. Ond, yn ôl Mr. Lewis, y mae'n rhaid inni gredu mewn Duw i fedru cyfrif am fodolaeth gwrthrychau, a dyma wreiddyn y profion traddodiadol o fodolaeth Duw, sef yr orfodaeth a osodir arnom i apelio at Rywbeth nad yw yn y byd os ydym am lwyddo i esbonio'r ffaith fod byd. Y mae edrych ar y byd fel uned cyflawn ac annibynnol ar ddim y tu allan iddo yn ein harwain at y gwrthddywediadau anochel, chwedl Kant. Fe ddyry Mr. Lewis yr enghraifft o amser a gofod. Rhaid bod amser a gofod yn derfynedig neu eu bod yn annherfynol. Ond y mae'n amhosibl credu eu bod yn derfynedig a'r un mor am- hosibl credu eu bod yn annherfynol. A dyma gasgliad Mr. Lewis Yr ydym yn cael ein harwain gan wrthgyferbyniadau o'r math a nodwyd at gred anorfod mewn rhyw natur drosgynnol hunan- ddigonol i'r cyfanfyd na all rheswm olrhain dim ohoni, ond sydd yn oblygedig ym mhob ymwybyddiaeth ddeallol." Ond dyweder bod Duw a allwn ni wybod dim amdano ? ac, os gallwn, drwy ba foddion ? (1) Gellir ateb yn nacaol. I bosit-