Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ewyllys-nid ein hewyllys ni-a ddywaid wrthym Rhaid." Gorchymyn, nid gwahodd na chymell, y mae dyletswydd." Dyna fraslun amherffaith o rediad llyfr cynhwysfawr a didd- orol. Nid yw'n llyfr anodd, ond gofynnir ei ddarllen yn araf a gof- alus i'w werthfawrogi'n briodol. Gwnâi werslyfr buddiol i Ddos- barthiadau'r WEA ar Athroniaeth Crefydd, a gallaf ddychmygu llawer trafodaeth frwd ac adeiladol uwchben ei gynnwys. JOHN ROGER JONES John Williams, 1840-1926,.gan Ruth Evans. Gwasg y BrifysgoL 3 Llyfr bach deniadol, fel arfer, yw'r llyfr dwy-ieithog a gy- hoeddwyd eleni gan Wasg Prifysgol Cymru i ddathlu Gŵyl Ddewi. Ynddo y ceir portread o'r Cymro nodedig, Syr John Williams, fel dyn, fel meddyg, ac fel prif sylfaenydd y Llyfrgell Genedlaethol. Adroddir hanes y llanc o Shir Gâr a ddaeth i enwogrwydd fel cymwynaswr ei genedl, mewn arddull syml, gynnes, er bod y rhan sy'n delio â'i yrfa fel meddyg efallai ychydig yn ddifywyd o'i cymharu â'r rhannau erailL Dylai apelio nid yn unig at ieuenc- tid Cymru, y rhai yr ysgrifennwyd er eu mwyn, ond at bobl mewn oed hefyd. Diddorol iawn i bawb sydd wedi gweithio yn y Llyfr- gell Genedlaethol yw hanes cynnar y sefydliad hwnnw, a dadl Syr John dros ei lleoli yn Aberystwyth, sef fod tref fach dawel lle y gellir byw yn rhad yn fan mwy cymwys i lyfrgell na thref fasnachol fawr gyda'i swn a'i brys, ei rhenti mawr a'i chostau byw uchel." Gellid gwrthddadlau, wrth gwrs, y byddai'n well fyth pe sefydlasid y Llyfrgell mewn canolfan poblog lle y gallai llawer mwy o efrydwyr ei mynychu heb orfod gadael eu cartrefi a thalu cost llety a theithiau hirion. Ond, er gwell neu er gwaeth, Aber- ystwyth yw cartref y Llyfrgell bellach a mawr yw dyled y genedl i Syr John Williams am ei haelioni a'i waith diflino a wnaeth ei sefydlu yn bosibl. NOELLE DAVIES