Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDElTHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRü Cyf. IX GWANWYN 1953 Rhif 1 NODIADAÜ'R GOLYGYDD OAMP a rhemp y Weinyddiaeth Addysg y dyddiau hyn y rhemp yn gyntaf-sef cwtogi'r Grantiau a delir tuag at gostau Addysg Pobl Mewn Oed. Bydd y WEA a Chydbwyllgorau'r Colegau yn gwario miloedd lawer o bunnau bob blwyddyn ar gynnal Dosbarthiadau i'r Bobl mewn Oed, a rhydd y Weinyddiaeth Addysg Grantiau iddynt yn ôl y swm o waith a wneir ganddynt. Pan nodir uchafswm y Grant ymlaen llaw ( y Seilin" y gelwir ef), os gwaria cymdeithas fwy na'r Seilin rhaid iddi dalu'r cwbl sydd dros ben o'i had- noddau ei hun. Tuedda pob cymdeithas, felly, i wario ychydig yn llai na'r Seilin, er mwyn cadw ar yr ochr ddiogel i'r clawdd. Y llynedd, hysbyswyd ni gan y Weinyddiaeth Addysg na thalai ddim mwy o Grant i unrhyw gymdeithas am y flwyddyn a oedd i ddyfod nag a dalodd iddi y flwyddyn gynt. Daeth Grant 1951- 52, felly, yn Seilin am 1952-53, er bod costau teithio'r athrawon, a chostau eraill, yn codi. Effaith hyn oedd gorfodi'r cymdeithasau i gynnal llai o ddosbarthiadau. Eleni, cyhoeddodd y Weinyddiaeth fod y Grantiau am y flwyddyn nesaf, 1953-54, i fod ddeg y cant yn is nag a dalwyd am y flwyddyn sydd yn darfod, 1952-53. Gall hyn olygu, mewn gwirionedd, fwy o ostyngiad na 10 y cant, yn ôl pa faint yn is na'r Seilin y cyrhaeddodd y gymdeithas yn 1952-53, ond nid oes sicrwydd am hyn. Bwriwch fod Seilin rhyw gymdeithas am y flwyddyn 1952-53 yn £ 4,000 (ac imi ddewis rhyw swm go gyfleus), a bod y gymdeithas, er mwyn bod ar yr ochr ddiogel, wedi gwario digon i ennill Grant o £ 3,900. Cs gwneir gostyngiad o 10 y cant eleni, nid ar Seilin y flwyddyn gynt, ond ar y Grantiau a dalwyd y flwyddyn honno, nid gostyngiad o £ 400 ar £ 4,000, fyddond gostyngiad^o £ 390 ar £ 3,900. Yna, nid £ 3,600 fydd Seilin y flwyddyn nesaf, ond £ 3,510— gost- yngiad o dros 12 y cent. Disgwylia'r Weinyddiaeth allu cynilo rhyw £ 30,000 neu fwy dros yr holl wlad trwy'r gostyngiad hwn.