Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARLOESWYR GAN J. F. REES DOSBARTH Y CHWARELWYR YM MLAENAU FFESTINIOG 1910-1911 ANERCHWYD Gwyl Lafur Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1909 gan Philip Snowden yn Saesneg, a chan Thomas Jones a D. R. Daniel yn Gymraeg. Achubodd Thomas Jones y cyfle i awgrymu sefydlu cysylltiad nes rhwng y werin a'r prif- ysgolion, ac yn arbennig rhwng Chwarelwyr Gogledd Cymru a Choleg y Brifysgol ym Mangor. Yr oedd yn amser cyfaddas i wneud awgrym o'r fath. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar Rydychen ac Addysg y Dosbarth Gweithiol (Oxford and Working Class Education) ychydig yn gynt, ac yr oedd hwnnw, ac ymgyrch Albert Mansbridge dros Addysg Goleg i'r Gweithwyr, wedi paratoi'r ffordd i ddatblygiad newydd mewn addysg oddi allan i'r muriau." Y flwyddyn ddilynol, cyflwynwyd swm o arian at wasanaeth Coleg Bangor, a chytunodd y Cyngor â'r egwyddor fod, "yn ychwanegol at angen am addysg oddi mewn i'r Coleg, angen hefyd am ddarparu addysg oddi allan i'r coleg mewn Economeg a phynciau perthynol iddiar gyferygweithwyrym mhrif ddiwydiannau Gogledd Cymru". Penderfynwyd, gan hynny, wneud arbraw yn ystod tymor 1910-11. Ffurfiwyd dosbarth ym Mlaenau Ffestiniog o 25 o chwar- elwyr, tri ohonynt yn swyddogion yr Undeb, a thri yn swyddogion cangen leol yr ILP. Gwahoddwyd fi i drefnu rhaglen, ac i roddi cwrs o bedair-ar-hugain o ddarlithiau, a thrafodaeth i fod ar ôl pob un. Y pryd hwnnw, ystyrid mai Economeg a phynciau perthynol iddi," chwedl Cyngor y Coleg, oedd y pwnc priodol i ddosbarthiadau o'r fath i'w hastudio. Felly, dewisais lyfr Arnold Toynbee, Lectures on the Industrial Revolution, yn werslyfr, a thrwy hynny gellais gyfuno cryn lawer o hanes diwydiant a hanes datblygiad syniadau mewn economeg. Un o'm hatgofion mwyaf pleserus ydyw ymweliad â'r dosbarth gan Silyn Roberts, a oedd y pryd hwnnw yn weinidog yn y Blaenau, a hynny ar y noswaith yr oeddwn yn ceisio egluro Athrawiaeth Rent Ricardb, a'r cyn- horthwy a roes inni i gyd yn y drafodaeth a ddilynodd. Cafwyd cyfle nodedig i wneud gwaith cenhadol dros yr achos ar ddiwedd yr wythnos. Cynhaliwyd cyfarfod mawr yn y dref o 9. ATGOFION