Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GLAS Y DORLAN (Trosiad o The Ringfisher, W. H. Davies) GAN J. T. JONES Yr Enfys a roes fod i ti, A gadael it' ei lliwiau drud A chan mai Dagrau oedd ei mam- 'Rwyt tithau'n dewis byw o hyd Gerllaw rhyw lyn, mewn unig fan, A choed wylofus ar y lan. A chennyt hardded lliwiau, dos At beunod balch y parciau glas Dangosed pob rhyw bluen dlos Ei marc ar lathraidd lawnt y Plas Dos, cura d'esgyll teg ynghyd Ger bron brenhinoedd balch y byd. Na, nid oes falchder ynot ti, Na gwamal fryd, aderyn gwiw Mewn llecyn deiliog draw ymhell Y carwn innau hefyd fyw- Ger distaw lyn, a'r helyg bren Yn ocheneidio uwch fy mhen. GLAS Y DORLAN GAN TREBOR ROBERTS Rhyfeddais, sefais yn syn — i'w wylio Rhwng yr helyg melyn Yna'r lliw yn croesi'r llyn Oedais, ond ni ddaeth wedyn.