Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HUNANGOFIANT TEGLA Gan YR ARCHDDERWYDD CYNAN Gyda'r Blynyddoedd, gan E. Tegla Davies. Gwasg y Brython. 8/6. T)AN ofynnodd rhywun i Bernard Shaw pam na sgrifennai ei fywgraffiad, nid oedd arno ball am atebion. Un oedd am nad oedd dim hynod erioed wedi digwydd iddo ef, ond mai ef yn hytrach oedd wedi digwydd i'r byd trwy gyfrwng ei lyfrau a'i ddramau. "Darllenwch hwy neu ewch i'w gweled," meddai, os mynnwch fy nabod i. Hunangyffes yw pob hunangofiant da ond os yw gwr yn llenor o ddifrif hunangyffes yw ei holl weithiau, ac fe ddywaid y rheini wrthych bopeth sy'n anhepgor ichwi ei wybod amdano. Petai bywyd beunyddiol Shakespeare o'i febyd i'w fedd yn sydyn yn dod i'r golau-a thywyllwch yr un mor sydyn yn cau rhyngom a Hamlet-y canlyniad fyddai gosod dyn hollol gyffredin ger ein bron yn lle dyn diddorol anghyffredin." Ac ymlaen ag ef i adrodd stori amdano'i hun unwaith yn ymweld ag un o'r merched hynny sy'n ymhonni gallu darllen stori eich bywyd oddi wrth gledr eich llaw. Fe synnodd hon Shaw trwy adrodd iddo fraslun pur gywir o'i fywyd, gan gynnwys dig- wyddiadau nad oedd ef ei hun wedi yngan gair amdanynt wrth neb erioed. Ymhen ychydig ddyddiau wedyn, fe heriodd cyfaill ef i ddarllen ei law yntau, a dweud stori ei fywyd wrtho. Cydiodd Shaw yn llaw ei gyfaill ac adrodd iddo, air am air, yr hyn a draeth- asai'r ferch fel braslun o'i fywyd ef. Yr oedd y cyfaill wedi ei syfr- danu wrth gywirdeb y braslun o'i fywyd yntau, yn union fel y syfrdanwyd Shaw ei hunan ychydig ddyddiau yn gynt, nes dyfod ohono i sylweddoli mor debyg i'w gilydd yw bywydau y rhan fwyaf ohonom Yr ydym yr un ffunud â'n gilydd mewn naw-deg-a- naw o bethau allan o bob cant," meddai, a'r un peth hwnnw sydd dros ben yw'r union beth sydd mor anodd i'w gyfleu trwy fyw- graffiad, ac ar yr un pryd mor amhosibl i'r gwir lenor ei gadw allan o'i weithiau." Eithaf gwers i'r bobl sy'n tybio mai astudio Llenyddiaeth (ag Ll fawr) y maent wrth chwilota pa mor aml y byddai Carlyle yn cael row efo'i wraig, neu pa un ai cwrw ai chwisgi ai te oedd orau gan Geiriog.