Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SIR GAERNARFON YN NECHRAU'R XIX GANRIF GAN GWILYM PEREDUR JONES A Description of Caernarvonshire (1809 — 1811), gan Edmund Hyde Hall gol., Emyr Gwynne Jones. Cyf. II o Record Series Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 15/- i aelodau'r Gymdeithas, a 20/- i bobl eraill. Yn ystod rhan olaf y ddeunawfed ganrif a rhan gyntaf y bed- waredd ganrif ar bymtheg amlygid dwy duedd go wahanol ymhlith pobl a geisiai ffurfio neu gadarnhau syniadau am y wlad a'i phobl. Teithiai rhai i gael gweled prydferthwch rhamantus natur, plastai hen neu ysblennydd, dinasoedd poblog neu borthladdoedd prysur chwiliai eraill am ystadegau ynglýn â chynnydd y boblogaeth, pwysau'r trethi, tyfiant diwydiannau neu gyflwr amaethyddiaeth. Ond, er bod y ddwy duedd yn wahanol, unid hwy weithiau mewn un person ac felly yr ydoedd gydag Edmund Hyde Hall, awdur Disgrifiad o Sir Gaernarfon yn y blynyddoedd o 1809 hyd 1811." Yr oedd yn ddigon o ystadegydd i geisio gwybodaeth ynghylch y nifer o dai newydd yn y plwyfydd, yn ddigon o hynafiaethydd i gof- nodi achau ac arfau rhai o hen deuluoedd y sir, ac yn ddigon o sylwedydd cymdeithasol i draethu ar chwaraeon, moesau a chref- ydd y trigolion. Ni wyddys pa beth a gynhyrfodd ei ddiddordeb i ddechrau, ac ni allodd ei olygydd, er ei ofal a'i ymchwil, ddod o hyd i lawer o'i hanes. Disgynnai o deulu parchus yn Jamaica, ac efallai fod rhyw gysylltiad rhyngddo a theulu'r Penrhyn. Cafodd ei addysg yn Ysgol Harrow. Ymsefydlodd dros amser ym Mangor, ond yn Nulyn yn 1824 y bu farw, yn grupul a hwyrach mewn tlodi. Efallai fod ganddo berthnasau neu gyfeillion yn Iwerddon ymhlith tanysgrifwyr at ei lyfr yr oedd dau ar bymtheg ar hugain o'r ynys honno. Oherwydd cyfyngder ariannol, hwyrach, a diffyg cefnogaeth, nid ymddangosodd y gwaith yn oes ei awdur, a bu'n rhaid aros nes i Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon ei gyhoeddi, gyda'r mapiau, yn y gyfrol drwchus hon. Ar un ystyriaeth, un anghymwys oedd Hall i ysgrifennu traethawd ar sir mor Gymreig nid oedd ganddo air o Gymraeg