Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CADNO "TY CANDDO" GAN D. T. EATON rPAFLU'R rhofiad olaf a wnâi Isac Ifans wrth ochr y gwelyau tywod a luniesid mor ddeheuig, pan welodd Joshua Thomas neu Jos Bach, yn dynesu ato. Edrych ar ôl y wyntyll dro oedd gwaith Jos Bach, ac yr oedd Isac yn un o'r cwmni a ofalai am y ffwrnes doddi enfawr a oedd ar ei gyfyl. Wel, Jos Bach," meddai Isac a rhyw watwar dinc yn ei lais, beth sy'n dy flino y bore 'ma ?" canys gwelodd fod golwg led ddifrifol arno. 0, dim byd neilltuol, ond 'mod i am gael gair bach gita ti," atebodd Jos. O ie," ychwanegodd Isac, gan edrych i lawr ar Jos o'i chwe throedfedd o daldra. Gair bach, iefe ? Wel, dere miwn fan hyn am funad." Ac i mewn yr aeth y ddau i'r ystafell lle'r arferai'r gweithwyr gael eu prydau bwyd. Yr oedd Jos wedi eistedd gyfer- byn ag Isac, a'i ddwy lygad yn serennu gan edmygedd wrth ed- rych arno. Credai nad oedd tebyg Isac yn y byd, a'i ddawn ddenu dynion ato a'u clymu wrth ei ewyllys. Etho ti i'r clwb nithwr, Isac ?" gofynnodd Jos mewn llais bach mwyn. Ffaelas i â mynd, rown i'n doti dwy rych o datws mas ar gae fferm y Bwlch." Dwy rych o datws yn wir, a rodd yn rhaid iti ddoti nhw ar nosweth clwb, oedd e ? Caria di mlân ngwas i, byddi di mas o'r clwb na ar dy ben cyn hir, a beth wyt ti'n mynd i wneud wedyn pan fyddi yn dost ? Byw ar y gwynt, iefe ?" Ond, Isac," meddai Jos yn gyfrwys bach, oet ti ddim na hefyd." 0 ie, rown i ddim na hefyd, owni, a 'rwyt ti'n gwpod hynny'n iawn, y llanc bach, a gwpod y reswm hefyd. A chan dy fod mor sharp y bora 'ma, ga i ddweud wrthyt ti ble ro ti'n doti dy datws nithwr ? Lan yn yr eithin ar ben y Foel a dau filgi gita ti 'Roedd Jos Bach yn edrych arno'n stwmp ac yn methu â dweud gair, wedi colli ei anadl yn lân. Gyda hyn dyma'r hwter yn canu ac Isac yn neidio ar ei draed ar unwaith, gan fynd i gyf- eiriad y drws a dweud, Ma'r ffwrnes yn barod i dapo, fe wela idiheno."