Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mr Cadeirydd, 'rwy'n ffaelu clywed gair o areth y brawd Dafydd Siams gan gymaint y chwyrnu sy'n mynd ymlân yma. A gawn ni heddwch, os gwelwch yn dda ?" ac eisteddodd i lawr. Ma'n llycad i arno ys tipyn," meddai'r cadeirydd a'i lais yn crynu gan dymer. Ond mynd ymlaen a wnaeth Twm â'i chwyrnu fel double bass band y dre, nes methodd y cadeirydd â dal yn rhagor. Dyma fe yn neidio ar ei draed gan weiddi Ca dy geg y pen lletwad y diawl, beth wyt ti'n gretu sy 'ma ? menagerie ?" Ond dyma Twm Tymaen ar ei draed wedi ei gynhyrfu i'r gwaelod. Pwy wyt ti'n galw diawl, gwed, y pen mwlsyn ?" a dyma hi'n ffrae wyllt rhwng y ddau. Wedi i bethau ymdawelu rhyw ychydig, cododd Isac ar ei draed yn hamddenol gan annerch y cyfarfod Gyfeillion, 'rwy'n sicr eich bod yn teimlo fel finna' ein bod wedi clywed pethau ofnadwy heno, petha' sy wedi ein harswydo yn fawr, a phethau sy'n anneilwng o'n clwb, a dweud y Ileia. Ond ma na reol bendant, fel rych chi i gyd yn gwpod, i ddelio ag amgylchiadau fel hyn, sy'n cosbi'n drwm am regi fel ma'r ddou hyn wedi gwneud heno. Ac felly 'rwy'n cynnig ein bod yn gweith- redu'r rheol heb golli amser." Llanwyd yr ystafell â banllefau o gymeradwyaeth a dirwywyd y ddau hanner coron yr un. Golwg ddafadaidd oedd ar y ddau pan ddaeth y trysorydd i nôl yr arian, a rhyw belydryn yn dechrau goleuo meddwl Twm Ty- maen parthed y modd y maglwyd ef gan Isac Tý Canddo. "'Rwy'n cynnig nawr," meddai Isac, ein bod yn cael gwerth coron o ddiod yn lle'r cwrw rhent a yfodd y cnafon hyn nos clwb diwethaf Fe wenai merch ifanc o'r Fro ( o'r De ) Wrth fynd ar gefn teiger am dro, (i'r dre ) Daethant adre cyn tri- Cddi mewn yr oedd hi, A chan bwy'r oedd y wên ? Ganddo fo. ( fe )