Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDI'R GAEAF GAN SAUNDERS LEWIS Cerddi'r Gaeaf gan R. Williams Parry. Gwasg Gee. 7 /6. LLYFR od yw hwn. Yr oedd yn glasur cyn ei gyhoeddi. Oherwydd anobeithio braidd am ei gael bu llawer un mewn llawer lle yn hel ei gynnwys, neu ran fawr o'i gynnwys, i lyfrau sgrifennu. Rhoes un o ysgolheigion y Llyfrgell Genedlaethol gopi llawysgrif fel yna yn anrheg i minnau, ac fe erys yn grair gennyf hyd yn oed yn awr wedi dyfod y gyfrol hardd hon. Canys cystal dweud ar unwaith nad yw Williams Parry ddim fel y gweddill ohonom y mae dadlau ac anghytuno yn ein cylch. Ef yw'r unig un y gellir ei osod yn yr ugeinfed ganrif gyda Thomas Gwynn Jones. Yng ngwanwyn pêr gobaith a thelyneg-cyn y rhyfel byd cyntaf-y tyfodd ef yn fardd ac yn feistr. Ceir ei delynegion rham- antaidd mawr yn nhraean cyntaf y llyfr hwn, y cerddi hynny a barai fod rhai rhifynnau o'r Llenor neu efallai'r Efrydydd yn yr ugeiniau pell yn ôl yn gyffro yn y gwaed ac yn Hesmair i lu ohonom. Darllener yn awr y bedwaredd ran, sef y tudalen olaf, o Drudwy Branwen. Mae'r math o ddychymyg a amlygir yno, neu ym mhennill olaf Tylluanod, wedi ei gyffwrdd a'i oleuo gan yr hen anachubol, annynol wrach a'n synna â'i sioe o sêr rhodd ydyw, gras nas enillir, stigmata'r wrach ei hunan. Aeth y ganrif yn ei blaen. Ni chefnodd y bardd ar ei gym- undeb cyntaf nac ar ei alwedigaeth. Daeth y blynyddoedd crin. Cerddi'r Gaeaf yw teitl y gyfrol, ond peidiwn â thybio'n rhy sydyn mai cerddi henaint yw'r ystyr o'u cyferbynnu â theitl ei gasgliad cynnar, ifanc. Nid annichon mai disgrifio hinsawdd ysbrydol Cymru yn ystod y chwarter canrif diwethaf y mae'r teitl. Yn ail hanner y tri-degau cynhyrfwyd y bardd gan ddau beth, sef gan philistiaeth y dosbarth canol academig newydd yng Nghymru, a chan ffasiwn, fer ei pharhad, a ddaethai i Gymru o Loegr ac a dueddai i droi barddoniaeth yn arf yn y rhyfel dosbarth ac yn feirniadaeth boliticaidd. Canlyniad ei gynhyrfiad fu barddoniaeth rymusaf yr ugeinfed ganrif,arswydus chwerw a difloesgni. Llyfrdra ynof innau fyddai tewi am hyn mewn adolygiad. Nid dychanu drwy ymosod a gafwyd gan Williams Parry, ond rhoi'n angerddol