Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Wedi darllen CERDDI'R GAEAF R. Williams Parry) Pe meddwn ddawn arlunydd, Awn ati yn ddi-oed I beintio ar fy nghanfas Lonyddwch y Lôn Goed. Tebig i long beintiedig Ar ryw beintiedig li"- Y llonydd gorffenedig" Yw ei llonyddwch hi. Pe meddwn ddawn cerflunydd, Fe wnawn o farmor gwyn Lun pen bach trist, a'i enaid I'w weld trwy'r llygaid syn Yr enaid a fu'n llosgi Dros Gymru'n eirias fflam, A gloes o hyd i'r prydydd Yw'r un a gafodd gam. Pe meddwn ddawn cartwnydd, Fe luniwn ddoethor blin Wrthi'n cystwyo'i orau A Chymru ar draws ei lin. Ond rhown yng nghil ei lygad Ddeigryn fel deigryn tad "Sgrifennwn uwch y darlun- Mae hwn yn caru'i wlad Pe ffotograffydd fyddwn, Fe dynnwn i ryw dydd Oriel o'i hen gyfeillion Fel Oriel Cewri'r Ffydd. O brydydd, maddau imi Rwysg fy mychymyg ffôl, Aeth llu o', rhain ar deithiau Rhy bell ddod yn ôl. TEYRNGED Gan E. R. GRIFFITH