Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CARFAN O DEULU'R WOODIAID GAN E. R. GRIFFITH WEDI darllen ysgrifddiddorol J. Glyn Daviesar Edward Wood a'r Datgeiniaid yn Rhifyn Haf 1952 LLEUFER, troes fy meddwl innau at garfan arall o deulu'r Woodiaid a fu'n byw yng nghylch Llanegryn tua diwedd y ddeunawfed ganrif, a dechrau'r bedwaredd ar bymtheg. Sipsiwn o'r iawn ryw oedd y rhain, a phreswylient ar gytir Rhiwfelen, ar y mynydd i'r gorllewin o bentref Llanegryn. O'r Clawdd Du, yn agos i Riwfelen, y claddwyd Abram Wood, hen bennaeth cangen o'r teulu, a gwelir cerrig beddau llawer iawn o deulu'r Woodiaid ym mynwent Llangelynin gerllaw. Ychydig iawn o hanes y teulu hwn sydd ar gael, dim ond ambell gofnodiad, ac ambell atgof. Yn hen lyfr bedyddiadau Llanegryn ceir y cofnod canlynol yn y flwyddyn 1778 Babtized Adam, son of Thomas Wood, a harper, by Elizabeth his wife Yn 1797 ceir cofnod arall Christened Natty, daughter of John Wood, harper, by Jane his wife." Meibion i Abram Wood oedd y Thomas a'r John yma, ac y mae'n debyg wedi priodi merched o'r ardal. Gallai Llanegryn ymffrostio mewn dau delynor, beth bynnag, yn y cyfnod hwn. Telynorion wrth eu gwaith oedd y rhain, a chanent eu telynau yn nhafarndai'r gymdogaeth, yn enwedig Cefn Coch (" Cefan Coch ar lafar). Bu'r Cefn Coch ar hyd y blynyddoedd yn ganolfan telynorion a datgeiniaid. Mynychid y dafarn gan John Roberts, Crydd, Llanegryn, yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac er bod yr hen delynorion wedi tewi, yr oedd traddodiad canu penillion yn parhau o hyd. Prentisiwyd fy hen gymydog, y diweddar John Davies, Abergynolwyn, gyda John Roberts, a chefais lawer iawn o'i hanes ganddo ef. Ymddengys fod gan John Roberts ystôr ddihysbydd o hen benillion. Chwibannai rhai o'r gweithwyr yn y gweithdy alaw, a chanai'r crydd benillion, weithiau am brynhawn cyfan, gan newid yr alaw yn achlysurol. Yr oedd John Roberts yn ddatgeiniad medrus iawn, a chanddo lais nodedig oglir ac ystwyth, ondni bu ar lwyfan erioed. Dro arall, neidiai yn sydyn ar ei draed, a chan daflu ei ffedog ar y fainc, dawnsiai step y glocsen ar y llawr gan ganu hen alaw. Cofiai Mr Davies un alaw a'r geiriau, a llwyddais i gael ganddo ei chanu imi. Alaw sionc, ddieithr, ydoedd, ac yr