Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd y geiriau yn fwy dieithr fyth. Tybiwn mai yn iaith y Romani yr oedd. 0 weithdy'r crydd yn Llanegryn, felly, y cafodd Mr Davies gip ar yr hyn a ddigwyddai yn nhafarndai Llanegryn oddeutu canol y ganrif ddiwaethaf, canu'r delyn, dawnsio i'w chyf- eiliant, a chanu gyda'r tannau. Am Adam Wood, a fedyddiwyd yn 1778, fe geir peth o'i hanes ef yn hen Lyfr Festri Llanfihangel-y-Pennant. Yn 1846 (yn 68 mlwydd oed felly), cawn ef yn derbyn £ 2. 1. 0 o arian plwyf. Yn 1847, derbvnia £ 1. 10. 0, a 63 o brydau bwyd yn ôl 4d yr un. Drachefn yn 1848, derbynia 1:2. 10. 0, ac yn 1849 £ 2. 2. 0, a naw pryd o fwyd yn ôl 6d y pryd. Yn niwedd 1849, cafodd fynd at rywun i fyw, oherwydd ceir entri yn y llyfr To Hugh Evans on Acct. of Adam Wccd, £ 2. 15. 0 Yr entri olaf amdano yn 1850 yw To Horse and man to Dolgelley wiih Adam Wood, 6 shillings." Dyma'r hen ŵr felly, yn 72 mlwydd oed yn cael ei ddwyn ar farch dros lethrau Cadair Idris, a'i roi yn wyrcws Dolgellau. Ni wyddom a oedd Adam Wood yn delynor ai peidio. Y mae'n ddigon posibl ei fod, ac iddo symud o Lanegryn i fyw ger Tafarn y Llan, Llan- fihangel-y-Pennant. Beth oedd y rheswm dros ei symud i'r wyrcws, pa un ai llesgedd ai diffyg elw fel telynor, ni wyddom. Fe beidiodd y bywyd lliwus, rhamantus hwn yn yr ardal wedi canol y ganrif ddiwaethaf, ond erys y cyfenw Wood yn yr ardal o hyd. Y mae "Cofio Waldo Williams yn un o delynegion mwyaf swynol yr iaith. Diolch i Derwyn Jones am alw fy sylw at ysgrif gan yr un awdur, Geiriau a gyhoeddwyd yn Y Ford Gron, Gorffennaf 1932. Dyma un paragraff ohoni:- Daw pang o hiraeth dros ddyn weithiau wrth gofio llu mawr geiriau angofiedig y byd-geiriau coll yr ieithoedd byw, a holl eiriau'r hen ieithoedd diflanedig. Buont yn eu dydd yn hoyw yng ngenau dynion, a da oedd gan hen wragedd crychlyd glywed plant bach yn eu parablu. Ond erbyn hyn ni eilw tafod arnynt ac ni wyr cof amdanynt, cans geiriau newydd a aeth i mewn i'w hetifedd- iaeth hwy