Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DOSBARTH TIWTORIAL WRECSAM 1908-191 Gan A. H. DODD CYD-BWYLLGOR Prifysgol Rhydychen yn 1908 a dorrodd dir newydd yng Ngogledd Cymru drwy fynd yn gyfrifol am y Dosbarth Tiwtorial cyntaf yng Ngwrecsam. Ni wn pwy a gymerth v cam cyntaf tuag at sefydlu'r dosbarth, o achos nid oeddwn yno yn y dechrau, ond amheuafyn gryf fod gan William Aston, a ddewis wyd yn gadeirydd arno, gryn lawer i'w wneud â'r mater, megis yr oedd a wnelai â llawer mudiad addysgol arall yng Ngwrecsam. John Davies, o Ysgol y Cyngor Victoria, oedd yr ysgrifennydd. Ond yn fwy na'r cwbl, R. H. Tawney oedd yr athro, gŵr ieuanc a oedd eisioes yn adnabyddus fel athro llwyddiannus iawn yn y mudiad newydd yma. Ni wn ddim am y ddwy flynedd gyntaf ond yr hyn a glywais amdanynt darlithiai Tawney ar Hanes Econom- aiddyn y blynyddoedd hynny. Panoeddy dosbarth yn ei drydedd flwyddyn y clywais i amdano gyntaf, a Gwyddor Economeg oedd y maes y flwyddyn honno. A mi'n fachgen yn y chweched dosbarth yn Ysgol Grove Park, yn ymbaratoi i fynd i Rydychen, yr oeddwn yn eiddgar am wybod rhywbeth ynghylch y pwnc newydd yma nad oedd ar faes llafur yr ysgol, ac mi ymunais â'r dosbarth. Profiad gwych ydoedd heblaw newydd-deb y pwnc, nid oeddwn erioed (pwy sydd ?) wedi cyfarfod â neb tebyg i Tawney, ac yr oedd ysbryd ac awyrgylch Mudiad Addysg Pobl mewn Öed — hwnnw yn ei gyfnod cynnar cenhadol-yn ddigon i danio dychymyg bachgen ifanc. Rhywbryd yn ystod y flwyddyn 1909-1910, sefydlwyd cangen leol o'r WEA, a W. Herbert Jones yn ysgrifennydd, a daeth Mansbridge yno i'n hannerch. Cysylltwyd y gangen â Rhanbarth y Gogledd-Orllewin, ac mi barheais yn aelod o'r Rhan- barth hwnnw nes ffurfio Rhanbarth Gogledd Cymru. Nid rhaid imi ymhelaethu ar ddulliau Tawney o addysgu-y darlith iau wedi eu paratoi'n ofalus; y ddawn ddewin honno a oedd ganddo i dynnu'r aelod distaw i mewn i'r drafodaeth bron heb yn wybod iddo'ihun, neu berii'r cranc â'r syniadau od ddadlau drostynt, neu sylweddoli ei hun nad oedd dim i'w ddweud o'u plaid; <ei nodiadau ar ein traethodau-mor anodd eu darllen, ond yn werth yr ymdrech i'w datrys. Yr oedd fy rhai i gennyf hyd yn lled ddiweddar. Ond y mae'n debyg mai'r peth a wnaeth yr argraff ddyfnaf arnom­;