Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TREM YN OL I'R DECHRAU GAN OWEN R. EDWARDS "yR oedd yn ddechrau'r gaeaf yn y flwyddyn 1910, a minnau yn rybelwr bach yn y Gloddfa Ganol yn Chwarel yr Oake- leys, Blaenau Ffestiniog. Newydd gychwyn ar fy ngyrfa ddiwyd- iannol, ac fel y rhelyw o'm cyfoedion wedi gorffen am byth ag addysg ac ysgol O ryddhad dim eisiau poeni byth mwy uwch- ben na phroblemau mathematics na Lladin. Onid oeddwn yn awr yn gwisgo trowsus melfaréd a siaced liain, ac yn cario tùn bwyd o dan fy nghesail i fyny'r Llwybr Cam bob bore erbyn saith o'r gloch ? Ac yn dysgu dal y cŷn manhollt yn briodol ar ben y clwt, ac yn edrych ymlaen at gael dysgu naddu'r sglodion yn llechi sgwâr ? Pa ddiddordeb oedd i mi bellach mewn ymgodymu â phroblemau Ewclid, a dadansoddi brawddegau Saesneg sych ac anniddorol ? Nid papur exam ond papur setlo tâl mawr oedd bellach i fod yn bwysig. Na, casawn y gyfundrefn addysg â chas perffaith. Yr oeddwn yn awr yn bymtheg oed, ac wedi fy rhyddhau ar ôl deng mlynedd o benyd-wasanaeth ysgol-bob-dydd. Gwyn fy myd Ond-un bore yn y felin, galwodd hen chwarelwr fi ato. Pen- liniais wrth ei ochr tra'r holltai ef ei gerrig, a dyma ei orchymyn- ie, gorchymyn, nid argymhelliad-"Wel 'di, machgen-i," meddai, mae'r Undeb wedi trefnu gyda Phrifysgol Bangor i gychwyn dosbarth Ysgol Nos ar gyfer pobol ifainc, i ddysgu Economics a phethau felly Economics ?" meddwn innau, beth ydi hwnnw, deudwch ?" 'Dwn i dim meddai, ond dos di yno iti gael gweld, a gad i mi wybod bore fory. Gofala hefyd," meddai, "am fod yno mewn pryd, achos dim ondnifer arbennig gaiff fod yn y dosbarth Parch i'r hen chwarelwr a'm gorfododd i frysio bwyta a newid yr hwyr hwnnw, ac yr oeddwn yn yr Ysgol Ganol yn brydlon cyn saith o'r gloch. 'Doedd yno'r un queue wrth y drws, ond yr oedd nifer led dda o bobl ifainc wedi dyfod ynghyd i gyfarfod gwr ieuanc o'r enw J. F. Rees. A dyna ddechrau pennod newydd yn hanes fy mywyd. Soniai'r athro wrthym am egwyddorion economics, a minnau'n methu'n lân â syrthio mewn cariad ag addysg, a theimlwn y noson honno fy mod wedi cael fy nenu yn ôl i gaethiwed. Ond rhaid oedd arnaf wrando'n astud, oherwydd disgwylid adroddiad gennyf