Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDOFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY MAE'R trefniadau ar gyfer Rali Fawr y Rhanbarth yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, i ddathlu Jiwbili'r WEA ar Ebrill 11, yn mynd ymlaen yn rhwydd ac yn esmwyth. James Griffiths a W. O. Lester Smith fydd y gwyr gwadd, a rhoddir Croeso Dinesig inni oll gan Arglwydd Faer Caerdydd. Bydd yno gynrychiolwyr o'r Awdurdodau Addysg Lleol, y Weinyddiaeth Addysg, Prifysgol Cymru, a'r Undebau Llafur. Argreffir Rhaglen hardd i'w chadw i gofio am y dydd. Y mae Aelodau ein Canghennau a'n Dosbarthiadau, a'r cymdeithasau cysylltiedig, yn edrych ymlaen at yr amgylchiad ac yn paratoi ar ei gyfer. Dymunwn longyfarch darpar-Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Collins. Ef oedd cadeirydd cyntaf Cangen Caerdydd o'r WEA, a bu am un mlynedd ar bymtheg yn Ysgrifennydd Dosbarth WEA a drefnwyd i aelodau'r UPW. Dymunwn iddo dymor llwyddiannus fel Arglwydd Faer yn ystod y flwyddyn eithriadol sydd o'i flaen, sef blwyddyn y coroni. Y mae gennyf newyddion da i'n Canghennau sy'n trefnu Ysgolion Haf Dibreswyl Coleg Harlech. Penderfynodd Pwyllgor y Coleg am resymau ariannol roi'r gorau i drefnu'r ysgolion hyn, er syndod a siomedigaeth fawr i Ganghennau Deheudir Cymru. Buasai'n ergyd drom iddynt pe na ellid gwneud rhyw drefniadau eraill; yr oedd yr Ysgolion hyn wedi dyfod yn rhan hanfodol o raglen addysg rhai o'n Canghennau. Y mae arnom ddyled i Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg am ganiatáu i Ranbarthau'r WEA gynnal yr Ysgolion hyn yn eu cylchoedd, a'u cydnabod yn gyrff cyfrifol i'w trefnu a'u gweinyddu. Penderfynodd Cangen Castell Nedd gynnal ei Chinio Blyn- yddol Nos Wener, Chwefror 20. Y mae'r ysgrifennydd, Len Will- iams, yn weithiwr diflino ac yn drefnydd campus. Daeth dros hanner cant o'r aelodau i'r cinio y llynedd, ac fe ddywedir wrthyf y bydd mwy na hynny yn siwr o ddod eleni. Y mae Cangen Pontardulais, a Changhennau eraill yn y De, yn paratoi eu trefniadau tuag at ddathlu Blwyddyn y Jiwbili. Cafodd ysgrifenyddion y Canghennau wybodaeth o'r Brif Swyddfa yn