Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH GAN I. DAN HARRY ERBYN hyn, y mae Coleg Harlech wedi rhoi chwarter canrif o wasanaeth i addysg y rhai mewn oed yng Nghymru. Ac nid yng Nghymru yn unig. Ceir cyn-fyfyrwyr o'r Coleg bron ymhob cwr o'r ddaear Ynysoedd Ffaro, Sweden, Denmarc, Yr Almaen, Awstria, Yr Iseldiroedd, Yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, Iwgoslafia, Irác, Affrica, Yr Unol Daleithiau, De America-heb sôn am yr Alban a Lloegr. Yma yn wir ceir unoliaeth mewn amrywiaeth. Yn ystod y blynyddoedd 1927-52, gwelodd y Coleg lawer tro ar fyd. Am y deuddeng mlynedd cyntaf yn ei hanes, gweithiodd o dan gysgodion y dirwasgiad, a diddorol fuasai sôn am ei gyfraniad tuag at ddatrys rhai o'r problemau a gododd yn sgil y cyfnod ofnadwy hwnnw. Gwnaeth y Coleg ei ran yn yr ymgyrch i gadw gweledigaeth yn glir, ac i roi gobaith ac ysbrydiaeth newydd i lawer o'n bechgyn a deimlai mai tywyll a digalon oedd eu dyfodol. Yn ychwanegol at y myfyrwyr a ddaeth am flwyddyn, gwelwyd cannoedd o'r di-waith yn dod yn eu tro i ddilyn cyrsiau byrion a drefnwyd ar eu cyfer, ac nidoes amheuaeth iddynt ddychwelyd, y mwyafrif mawr ohonynt, i'w hen gynefin â'u gobeithion wedi eu hadnewyddu. Gwaith adeiladol a fu'n adgyfnerthiad ysbryd i gannoedd ydoedd hwn, ac ynddo'i hun yn gyfiawnhad digonol a chyflawn i fodolaeth Coleg Harlech. Daeth yr Ail Ryfel Mawr yn 1939. Aethpwyd ymlaen â'r gwaith hyd 1940, ond yn wyneb galwadau anochel yr argyfwng gwasgarwyd y myfyrwyr a'r athrawon, a thros dro daeth terfyn ar waith preswyl y Coleg. Eithr ni chaewyd ei ddrysau. Am ddwy flynedd rhoddwyd llety i Adran Gelf Prifysgol Lerpwl, ac o 1942 hyd 1946 bu'r Coleg at Wasanaeth Adran Addysg y Lluoedd Arfog. Ail ddechreuodd ar ei waith priod yn mis Medi 1946. Dyma'r pryd yr agorwyd y Llyfrgell odidog sy'n wrthrych edmygedd a balchder cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o fyfyrwyr. Dim ond o drwch y blewyn y gorffennwyd ei hadeiladu cyn i'r rhyfel ddod ar ein gwarthaf, ond fe lwyddwyd. Saith o fyfyrwyr a ddaeth at ei gilydd i gychwyn y cyfnod newydd. Bellach, yr oedd amodau diwydiannol y wlad wedi newid.